Fe wnaethom groesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar ganllawiau newydd i benderfynwyr yng nghyfnodau’r Asesiad Cychwynnol ac Asesu o’i broses addasrwydd i ymarfer.
Fe wnaethom groesawu’r canllawiau arfaethedig yn gyffredinol a’u nod o gefnogi gwneud penderfyniadau teg, cyson a chymesur, gan nodi meysydd lle byddai mwy o eglurder yn cryfhau eu cywirdeb a’u cymhwysiad cyfreithiol. Yn benodol, fe wnaethom argymell canllawiau cliriach ar anonestrwydd, gwahaniaethu a rhyddid mynegiant, hyder y cyhoedd, pryderon iechyd a’r trothwyon ar gyfer symud achosion ymlaen.
Fe wnaethom hefyd groesawu’r sylw a roddwyd i gydraddoldeb, gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, gan argymell camau pellach i wella hygyrchedd a sicrhau bod penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ag anableddau yn seiliedig ar y dystiolaeth mewn achosion unigol yn hytrach na rhagdybiaethau.
Darllenwch ein hymateb llawn isod.