Ydy rhyw rhwng cydweithwyr yn rhoi cleifion mewn perygl?

08 Mai 2018

Heddiw, cyhoeddodd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ganlyniadau ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol a chleifion yn archwilio ymddygiad rhywiol rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a'i effaith bosibl ar gleifion.

Rydym wedi sylwi y gallai gweithwyr proffesiynol sy’n destun achosion addasrwydd i ymarfer am gamymddwyn rhywiol tuag at gydweithwyr gael llai o sancsiynau na gweithwyr proffesiynol a oedd wedi croesi ffiniau rhywiol gyda’u cleifion. Cyfeiriwyd tri achos o'r fath i'r Llys o dan ein pwerau i apelio yn erbyn penderfyniadau panel rheoleiddwyr ond collwyd.  

Roeddem am ddarganfod a oedd ein barn ar ba mor ddifrifol y dylid trin yr ymddygiad hwn yn groes i farn y cyhoedd. Archwiliodd yr ymchwil a gynhaliwyd ar ein rhan gan Dr Simon Christmas a’i gydweithiwr farn gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion gan ddefnyddio senarios yn seiliedig ar achosion go iawn. Tri chwestiwn allweddol yr ymdrinnir â hwy yn yr adroddiad yw:

  1. Pryd mae ymddygiad tuag at/gyda chydweithiwr yn croesi ffin?
  2. Sut mae ymddygiad croesi ffiniau yn berthnasol i addasrwydd i ymarfer?
  3. Sut y dylai rheolyddion ymateb i ymddygiad o'r fath?

Amlygodd yr ymchwil farn cyfranogwyr ar sut y gall y math hwn o ymddygiad gael effaith negyddol ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd eu gofal:

  • gall dynnu sylw at broblemau a chymhellion dwfn o ran agwedd – gan gynnwys diffyg empathi (yr oedd llawer o’r cyfweleion yn meddwl ei fod yn nodwedd hanfodol mewn gweithiwr iechyd proffesiynol) a allai achosi risg i gleifion
  • gall fod effeithiau ehangach o ymddygiad croesi ffiniau, gan gynnwys yr effaith a gaiff ar y cydweithiwr sy’n destun iddo (straen, gwrthdyniad, pryder)
  • gall greu diwylliant lle mae ymddygiad croesi ffiniau yn dod yn dderbyniol (gan greu amgylcheddau gwaith gwenwynig o bosibl lle caiff bwlio ei normaleiddio)
  • gall effeithio ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol lle mae ymddygiad o'r fath yn cael ei dystio neu ei glywed.

Dywedodd Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Polisi a Safonau, 'Mae'r ymchwil hynod ddiddorol hwn wedi dangos 'sut' y mae pobl yn meddwl am ymddygiad rhywiol rhwng cydweithwyr a phan fydd yn croesi ffiniau. Credwn y bydd yn adnodd gwerthfawr i baneli rheoleiddio sy’n meddwl am achosion o’r math hwn. Mae'n amlygu pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol wrth amddiffyn cleifion a chynnal hyder y cyhoedd.'

Yr adroddiad – Ymddygiadau rhywiol rhwng ymarferwyr iechyd a gofal: ble mae’r ffin? gellir ei lawrlwytho o'n gwefan. Rydym hefyd wedi cynhyrchu crynodeb gweledol sy'n amlygu rhai o'r canfyddiadau allweddol.

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: 

Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi

E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk

Derbynfa: 020 7389 8030

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.

  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.

  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.

  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.

  6. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.

  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion