Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi 'Adolygiad o'r Gwersi a Ddysgwyd' o'r modd y mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi ymdrin â phryderon ynghylch addasrwydd bydwragedd i ymarfer yn Ysbyty Cyffredinol Furness

15 Mai 2018

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol heddiw wedi cyhoeddi ei Adolygiad Gwersi a Ddysgwyd o'r modd y mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn ymdrin â phryderon ynghylch addasrwydd bydwragedd i ymarfer yn Ysbyty Cyffredinol Furness (FGH). Mae’r pryderon hyn yn dyddio’n ôl i 2004.

Mae’r Adolygiad hwn, a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac a gefnogir gan yr NMC wedi dod i’r casgliad, er bod perfformiad yr NMC fel rheolydd yn gwella, ei fod yn parhau i wneud rhai camgymeriadau a bod yn rhaid iddo ddatblygu diwylliant mwy parchus ac agored.

Mae'r Adolygiad yn cydnabod bod yr NMC wedi gwneud llawer o newidiadau a gwelliannau ers 2014, ond daw i'r casgliad bod dau faes arwyddocaol sydd angen gwaith brys ychwanegol: ymagwedd yr NMC at werth tystiolaeth gan gleifion a chyfathrebu â nhw; a'i ymrwymiad yn ymarferol i dryloywder.

Mae’r Adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion gyda’r bwriad o gynorthwyo’r NMC a rheoleiddwyr eraill i wella eu safonau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella ymgysylltiad â chleifion a'r cyhoedd a gweithredu mewn modd tryloyw.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, Harry Cayton:

'Mae'r hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty Cyffredinol Furness yn parhau i fod yn ysgytwol, ac ni ddylai marwolaethau trasig babanod a mamau byth fod wedi digwydd. Mae canfyddiadau’r Adolygiad rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn dangos bod ymateb yr NMC yn annigonol.

'Er bod yr NMC wedi gwneud cynnydd da o ran ei ddull technegol o ymdrin â chwynion a phryderon, erys problemau diwylliannol y mae'n rhaid iddo eu datrys er mwyn i'r cyhoedd fod â hyder yn ei allu i'w hamddiffyn rhag niwed.'

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd

Gallwch lawrlwytho copi o'r adroddiad yma . Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau ffoniwch 020 7618 9118 neu e-bostiwch psa@luther.co.uk

Am yr Adolygiad

Comisiynwyd yr Adolygiad hwn gan y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn ymchwiliad gan Dr Bill Kirkup CBE, a ddaeth i ben yn 2015, a ganfu bryderon difrifol ynghylch cymhwysedd clinigol ac uniondeb yr uned bydwreigiaeth yn Furness Ysbyty Cyffredinol rhwng 2004 a 2014. Rhoddwyd cylch gwaith i'r Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol i archwilio dull yr NMC o reoli'r cwynion, y modd y mae'n gweinyddu'r achosion a'i reolaeth o berthynas â thystion, cofrestreion a rhanddeiliaid allweddol eraill. Gofynnwyd i'r Awdurdod nodi gwersi y gallai'r NMC a rheoleiddwyr eraill eu dysgu o drin yr achosion hyn. Mae’r NMC wedi cydweithredu a chefnogi’r adolygiad.

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
  4. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  5. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  6. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  7. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
  8. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion