Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad yr NMC ar gyfer 2017/18
23 Ebrill 2019
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae cofrestr yr NMC yn cynnwys ychydig dros 690,000 o nyrsys a bydwragedd sy'n ymarfer yn y DU, a chymdeithion nyrsio sy'n ymarfer yn Lloegr.
Mae'r NMC wedi bodloni 22 allan o 24 o'n Safonau Rheoleiddio Da . Nid yw wedi bodloni dwy o’n Safonau Addasrwydd i Ymarfer sy’n ymwneud â thryloywder a thegwch ei brosesau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bartïon.
Dyma'r adolygiad cyntaf o'r NMC ers i ni gyhoeddi ein hadolygiad o'r gwersi a ddysgwyd . Rydym yn falch bod yr NMC wedi sefydlu cynllun gwaith i fynd i’r afael â’r pryderon a amlinellwyd gennym yn ein hadolygiad. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd peth amser i’w rhoi ar waith ac i ni werthuso’r canlyniadau.
Fe nodom fod yr NMC wedi gwneud gwaith sylweddol ar ei adolygiad o addysg a hyfforddiant. O ran addasrwydd i ymarfer, mae wedi gwneud cynnydd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch sut y mae’n cyfathrebu â theuluoedd a chleifion – gan gynnwys sefydlu ei wasanaeth cymorth cyhoeddus a hefyd edrych ar y naws llais y mae’n ei ddefnyddio wrth ohebu ag aelodau’r cyhoedd.
Fodd bynnag, roedd gennym bryderon ynghylch sut yr ymdriniodd yr NMC â chwynion a godwyd am gofrestreion sydd wedi cynnal asesiadau Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP). Roeddem o’r farn nad oedd yr NMC wedi ystyried yn systematig yr holl bryderon a godwyd gan achwynwyr, yn dibynnu ar farn cyflogwyr fel rhesymau dros gau achosion, heb graffu priodol ac na chawsant ddigon o dystiolaeth i wneud ei benderfyniadau.
Roeddem o'r farn bod y materion hyn yn creu rhwystr i bobl agored i niwed godi pryderon a allai fod yn ddifrifol. Fe nodom hefyd fod yr NMC yn cytuno â’n canfyddiadau a’i fod yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r pryderon.
Rydym yn cydnabod bod yr NMC yn derbyn y pryderon yr ydym wedi’u nodi ynghylch ei ddull o ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer ac yn gwneud gwaith sy’n ceisio mynd i’r afael â hwy. Ni fyddem wedi disgwyl gweld newid sylweddol yn y cyfnod adolygu perfformiad hwn. Byddwn yn monitro gwaith yr NMC yn agos mewn adolygiadau perfformiad yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadroddiad llawn Adolygiad Perfformiad - NMC 2017/18 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Mark Stobbs, Cyfarwyddwr Craffu ac Ansawdd
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Mark.Stobbs@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn rheoleiddio’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth yn y Deyrnas Unedig. O fis Gorffennaf 2018, daeth yr NMC hefyd yn rheolydd cyfreithiol ar gyfer cymdeithion nyrsio yn Lloegr. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys (cofrestryddion); sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio; ei gwneud yn ofynnol i gofrestreion gadw eu sgiliau'n gyfredol trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 31 Mawrth 2018, roedd yr NMC yn gyfrifol am gofrestr o 690,278 o nyrsys a bydwragedd. Ei ffi gadw flynyddol ar gyfer cofrestreion yw £120.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk