Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer 2017/18
31 Mai 2019
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae cofrestr y GDC yn cwmpasu bron i 112,000 o weithwyr deintyddol proffesiynol sy’n ymarfer yn y DU.
Rydym wedi asesu perfformiad y GDC yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da . Ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae’r GDC wedi bodloni 22 allan o 24 o’r Safonau. Er bod y rhan fwyaf o'r Safonau wedi'u bodloni, fe nodom ddirywiad yn amseroldeb y GDC o ran datblygu achosion addasrwydd i ymarfer, a oedd yn golygu nad oeddem yn ystyried bod y Safon hon wedi'i bodloni. Rydym yn ymwybodol bod y GDC wedi cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn perfformiad yn 2017/18 ond ni arweiniodd hyn at welliannau y gallem eu nodi yn y flwyddyn honno. Byddwn yn adolygu cynnydd y GDC yn yr adolygiad perfformiad nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad – GDC 2017/18 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) yn rheoleiddio’r proffesiynau deintyddol (deintyddion, nyrsys deintyddol, hylenyddion deintyddol, technegwyr deintyddol, therapyddion deintyddol, therapyddion orthodontig a thechnegwyr deintyddol clinigol) yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys (dim ond y rhai sydd wedi'u cofrestru'n briodol gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a all ymarfer deintyddiaeth yn y DU); sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant deintyddol cyn cofrestru; ei gwneud yn ofynnol i weithwyr deintyddol proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 30 Mehefin 2018, roedd y GDC yn gyfrifol am gofrestr o 111,813 o weithwyr deintyddol proffesiynol. Ei ffi gadw flynyddol yw £890 ar gyfer deintyddion a £116 ar gyfer gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk