Cysondeb a hyder mewn achosion addasrwydd i ymarfer

11 Mehefin 2019

Heddiw rydym yn cyhoeddi dau adroddiad o ganlyniad i Adolygiad Williams i ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ym maes gofal iechyd. Sefydlwyd Adolygiad Williams yn sgil achos Dr Bawa-Garba ac argymhellodd ein bod yn edrych ar:

  • graddau a rhesymau dros wahanol ganlyniadau addasrwydd i ymarfer mewn achosion tebyg; a
  • sut yr asesir yr effaith ar hyder y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau addasrwydd i ymarfer am weithwyr gofal iechyd proffesiynol unigol.

Wedi hynny comisiynodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ein cyngor – y ddau adroddiad hyn yw’r canlyniad.

Mae datblygu methodoleg i asesu cysondeb canlyniadau addasrwydd i ymarfer yn nodi dull strwythuredig o ddeall y ffactorau sy'n dylanwadu ar gysondeb ac yn cynnig methodoleg a allai symud y gwaith hwn yn ei flaen. Fe wnaethom gontractio Adran Ymchwil Addysg Feddygol UCL i gynnal yr astudiaeth hon. Byddai asesu cysondeb yn ddarn mawr o waith oherwydd bod y naw rheolydd proffesiynol yn gweithio o dan ddeddfwriaeth wahanol gyda rheolau a chanllawiau amrywiol sy'n cael eu cymhwyso i amgylchiadau penodol achos unigol.

Sut mae hyder y cyhoedd yn cael ei gynnal pan wneir penderfyniadau addasrwydd i ymarfer? Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r ffaith bod:

  • nid oes diffiniad cytûn ymhlith y rheolyddion o beth yw hyder y cyhoedd; neu
  • pa fathau o ymddygiad neu gamau rheoleiddio all effeithio arno yng nghyd-destun rheoleiddio gweithwyr iechyd; a
  • mae gan y cyhoedd safbwyntiau gwahanol mewn perthynas â gwahanol broffesiynau.

Rydym yn dod i'r casgliad bod gwahaniaethau mewn ymagwedd ar draws y rheolyddion sy'n cael eu siapio gan ystod o ffactorau. Fodd bynnag, nid yw’n glir pa effaith y mae hyn yn ei chael ar y penderfyniadau a wneir ac a yw hyn yn effeithio’n sylweddol ar ganlyniadau addasrwydd i ymarfer. Byddai angen dadansoddiad achos ar raddfa fawr i asesu hyn.

Mae’r ddau adroddiad yn tanlinellu bod hwn yn faes cymhleth o reoleiddio gofal iechyd – yn rhemp gydag anghysondebau o ran iaith, diffiniadau gwahanol a therminoleg hen ffasiwn.

Mae'r ddau adroddiad ar gael ar ein gwefan.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi

Derbynfa: 020 7389 8030

E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk

E-bost: info@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk
  8. Syr Norman Williams 2018, Dynladdiad trwy esgeulustod difrifol mewn gofal iechyd: adroddiad adolygiad polisi cyflym . Ar gael yn: www.gov.uk/government/groups/professor-sir-norman-williams-review

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion