Yr Awdurdod yn croesawu adroddiad annibynnol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth am bryderon a godwyd yn ein hadolygiad o wersi a ddysgwyd
23 Hydref 2019
Rydym yn canmol yr NMC am gomisiynu'r adroddiad annibynnol hwn. Mae’r adroddiad yn edrych ar y pryderon a godwyd gennym yn yr Adolygiad o Wersi a Ddysgwyd ynghylch colli’r gronoleg a ddarparwyd gan un o’r rhieni i’r NMC, a’r esboniadau dilynol a ddarparwyd i ni gan yr NMC.
Nodwn fod canfyddiadau'r adroddiad yn gyson â rhai ein hadolygiad a bod yr adroddiad yn ystyried bod llythyr yr NMC atom yn gamarweiniol.
Mae'r Awdurdod yn dibynnu ar y rheolyddion yn darparu gwybodaeth gywir i ni fel y gallwn wneud penderfyniadau priodol ynghylch a yw penderfyniadau addasrwydd i ymarfer yn ddigonol ai peidio i amddiffyn y cyhoedd. Er nad oedd y wybodaeth gamarweiniol gan yr NMC yn yr achos hwn wedi effeithio’n sylweddol ar ein penderfyniad, roedd yn amlwg bod ganddo’r potensial i wneud hynny. Rydym yn derbyn ymddiheuriad yr NMC.
Digwyddodd y digwyddiadau dair blynedd yn ôl. Yr hyn sy'n bwysig yw y dylid dysgu gwersi o'r digwyddiadau hyn ac y gall yr NMC barhau â'i waith wrth fynd i'r afael â hwy.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Mark Stobbs, Cyfarwyddwr Craffu ac Ansawdd
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Mark.Stobbs@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Comisiynwyd ein Hadolygiad o’r Gwersi a Ddysgwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2017 yn dilyn ymchwiliad gan Dr Bill Kirkup CBE, a ddaeth i ben yn 2015, a ganfu bryderon difrifol ynghylch cymhwysedd clinigol ac uniondeb yr uned bydwreigiaeth yn Ysbyty Cyffredinol Furness rhwng 2004 a 2014. Cyhoeddwyd yr adolygiad ym mis Mai 2018 a gwnaeth gyfres o argymhellion gyda'r bwriad o gynorthwyo'r NMC a rheoleiddwyr eraill i wella eu safonau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella ymgysylltiad â chleifion a'r cyhoedd a gweithredu mewn modd tryloyw.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk