Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad perfformiad diweddaraf o'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol
24 Ionawr 2020
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae cofrestr y GDC yn cynnwys dros 113,000 o weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n ymarfer yn y DU.
Rydym wedi asesu perfformiad y GDC yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da. Ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae’r GDC wedi bodloni 22 allan o 24 o’r Safonau. Mae'r Safonau nas cyrhaeddwyd ill dau yn ymwneud â pherfformiad ei swyddogaeth addasrwydd i ymarfer.
Mae'r Safon gyntaf (Safon 6 ar gyfer Addasrwydd i Ymarfer) yn ymwneud ag amseroldeb ymdrin â'r achosion hyn. Methodd y GDC â bodloni’r Safon hon y llynedd hefyd. Er bod y GDC wedi gwneud rhai gwelliannau, cymysg fu ei berfformiad yn y maes hwn yn ei gyfanrwydd ac mae ei amserlen gyffredinol ar gyfer cwblhau achosion yn parhau i fod ar frig y rheolyddion a oruchwyliwn.
Mae'r ail (Safon 10 ar gyfer Addasrwydd i Ymarfer) yn ymwneud â diogelu gwybodaeth gyfrinachol. Nid yw'r GDC wedi bodloni'r Safon hon ers 2012. Er ein bod yn ymwybodol ei fod wedi cymryd nifer o gamau i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ddiweddar, roeddem yn bryderus ynghylch y nifer a'r math o doriadau a welsom yn y cyfnod perfformiad hwn.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - GDC 2018/19 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr, Polisi a Safonau
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (y Cyngor Deintyddol Cyffredinol) yn rheoleiddio'r proffesiynau deintyddol (deintyddion, nyrsys deintyddol, hylenyddion deintyddol, technegwyr deintyddol, therapyddion deintyddol, therapyddion orthodontig a thechnegwyr deintyddol clinigol) yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; Cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys. Dim ond y rhai sydd wedi'u cofrestru'n briodol gyda'r GDC all ymarfer deintyddiaeth yn y DU; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant deintyddol cyn cofrestru; ei gwneud yn ofynnol i weithwyr deintyddol proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 30 Mehefin 2019, roedd y GDC yn gyfrifol am gofrestr o 113, 931 o weithwyr deintyddol proffesiynol. Ei Ffi Cadw Blynyddol ar gyfer cofrestreion yw £890 ar gyfer deintyddion a £116 ar gyfer gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag uniondeb, tryloywder, parch, tegwch ac fel rhan o dîm.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk