Datganiad ar y cyd gan y Gydweithredfa Cofrestrau Achrededig ar yr achosion presennol o COVID-19 (Coronafeirws)
11 Mawrth 2020
Daw’r Datganiad hwn o’r Gydweithrediaeth Cofrestrau Achrededig ac fe’i cyhoeddwyd gyntaf ar 6 Mawrth 2020:
Mae'r Llywodraeth wedi dweud bod yr achosion o COVID-19 (Coronafeirws) yn fygythiad cynyddol sylweddol. Fel deiliaid cofrestrau achrededig, ein prif ddiben yw amddiffyn y cyhoedd. Rydym hefyd yn cefnogi cofrestreion yn niogelwch, a pharhad, eu hymarfer.
Rydym yn cadw cofrestrau dros 80,000 o ymarferwyr iechyd a gofal yn y DU. Rydym am i'n cofrestreion gynnal gwasanaethau i gleifion, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth, gan gadw'n ddiogel ac yn iach wrth i chi wneud hynny.
Ar gyfer cofrestreion ac aelodau'r cyhoedd mae llawer o wybodaeth am yr achos hwn a sut i gadw'n ddiogel. Ewch i NHSUK/coronafeirws i gael gwybodaeth am y firws a sut i amddiffyn eich hun. Defnyddiwch y gwasanaeth coronafeirws 111 ar-lein i wirio a oes angen cymorth meddygol arnoch.
Ar gyfer yr ymarferwyr hynny ar Gofrestrau Achrededig sy’n dod i gysylltiad yn aml ag aelodau’r cyhoedd, mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllawiau helaeth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ewch i: gov.uk/government/wuhan-novel-coronavirus
Mae'n bwysig golchi'ch dwylo'n amlach, yn enwedig:
- pan fyddwch chi'n cyrraedd y gwaith neu'n cyrraedd adref
- ar ôl i chi chwythu eich trwyn, peswch neu disian
- cyn i chi fwyta neu drin bwyd.
Dylech olchi eich dwylo am 20 eiliad, gan ddefnyddio sebon a dŵr neu lanweithydd dwylo. Mae golchi dwylo am 20 eiliad yn ganolog i atal ac arafu lledaeniad coronafeirws (COVID-19). Dylech besychu neu disian i mewn i hancesi papur a chael gwared arnynt ar unwaith.
Ym mhobman yn y DU, mae'n hollbwysig bod pawb yn dilyn cyngor clinigol trwy gysylltu â GIG 111 a pheidio â mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys os byddwch yn datblygu symptomau.
Dylai gweithwyr cofrestredig a'ch cydweithwyr fod yn siŵr bod gennych chi'r wybodaeth, yr amgylchedd a'r offer gorau i wneud eich swydd. Dylech fod yn barod i roi cyngor clir a defnyddiol i'ch cleifion, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn cydnabod yr heriau a ddaw yn sgil yr achos hwn i gofrestreion o ran cynnal gwasanaethau o ansawdd uchel.
Mae ein safonau rheoleiddio wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Mae angen i gofrestreion weithio ar y cyd â chydweithwyr i gadw pobl yn ddiogel, i ymarfer yn unol â’r dystiolaeth orau sydd ar gael, i gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd, ac i gael trefniadau indemniad priodol sy’n berthnasol i’ch ymarfer.
Pan godir pryder am gofrestrai, bydd bob amser yn cael ei ystyried ar sail ffeithiau penodol yr achos, gan ystyried y ffactorau sy’n berthnasol i’r amgylchedd y mae’r gweithiwr proffesiynol yn gweithio ynddo. Byddem hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am adnoddau, canllawiau neu brotocolau sydd ar waith ar y pryd.