Diweddariad ar ddeiseb i ymchwilio i wrthdaro buddiannau honedig yn strwythur llywodraethu'r GOC

10 Gorffennaf 2020

Rydym wedi bod yn ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb yn gofyn i ni gynnal adolygiad arbennig o’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC). Mae'n bwysig nodi mai dim ond os oes ganddo bryderon difrifol am berfformiad rheolydd y bydd yr Awdurdod yn ystyried cynnal adolygiad o'r fath.

Rydym wedi cael gwybodaeth gan y GOC am sut y mae wedi datblygu a chyhoeddi canllawiau i gofrestreion ynghylch darparu gwasanaethau yn ystod pandemig Covid-19. O'r dystiolaeth a welsom, ymgynghorodd y GOC ag ystod briodol o sefydliadau rhanddeiliaid. Nid yw'n ymddangos bod y canllaw ei hun yn rhoi unrhyw grŵp o gofrestreion o fantais o gymharu ag eraill. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o ddylanwad gormodol gan unigolion cofrestredig neu fusnes cofrestredig penodol. Nid oeddem o'r farn bod sail i ni gynnal ymchwiliad arbennig i wrthdaro buddiannau honedig yn y modd yr ymdriniodd y GOC â'r mater hwn.

Nodwn fod y GOC wedi derbyn, yn ei ddatganiad ar y cyd â Chymdeithas yr Optometryddion Annibynnol, y gallai ei ganllawiau fod wedi bod yn gliriach. Deallwn fod y GOC wedi derbyn cwynion mewn perthynas â thoriadau honedig o’r canllawiau, y mae’n eu hystyried trwy ei broses addasrwydd i ymarfer. Mae’r gyfraith yn ein hatal rhag ymyrryd mewn achosion addasrwydd i ymarfer parhaus, er y gallwn adolygu’r modd yr ymdrinnir ag achosion a gaewyd fel rhan o’n hadolygiad perfformiad a gallwn apelio achosion a glywir gan baneli os ydym o’r farn nad yw’r penderfyniad yn ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd.

Mae’r materion eraill a godwyd, yn ein barn ni, yn cael eu hystyried orau gan y GOC fel rhan o’i brosesau arferol. Byddwn yn adolygu'r prosesau a'r penderfyniadau hynny fel rhan o'n proses adolygu perfformiad.

Felly nid ydym yn ystyried bod tystiolaeth sy’n codi pryderon difrifol am berfformiad y GOC fel y dylem ystyried cynnal ymchwiliad arbennig i’r gwrthdaro buddiannau honedig neu faterion eraill a godwyd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar berfformiad y GOC trwy ein hadolygiadau perfformiad blynyddol.

Mae ein hadolygiad perfformiad nesaf o’r GOC yn dechrau ym mis Hydref 2020, a bydd yn edrych ar berfformiad y GOC o fis Hydref 2019 i fis Medi 2020. Rydym yn croesawu adborth am berfformiad y GOC. Mae rhagor o wybodaeth am ein proses adolygu perfformiad ar gael yma . Gall unigolion a sefydliadau rannu eu profiad o berfformiad y GOC yn 2019/20 gyda ni yma .

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion