Cadeirydd yr Awdurdod yn ymddiswyddo i gymryd rôl Prif Rheoleiddiwr dros dro Ofqual

25 Awst 2020

Mae'r Awdurdod yn cydnabod yr heriau sylweddol y mae'r system addysg a'r rheoleiddiwr arholiadau Ofqual yn eu hwynebu yn wyneb Covid-19, dyfarnu graddau arholiad yr haf hwn a'r angen nawr i lunio trefniadau arholi ac asesu yn y dyfodol. Mae’r Fonesig Glenys Stacey mewn sefyllfa unigryw, oherwydd ei phrofiad, ei sgiliau a’i chynefindra ag Ofqual, i arwain y sefydliad hwnnw ar yr adeg anodd hon. Bydd y Fonesig Glenys yn ymgymryd â rôl Prif Rheoleiddiwr dros dro Ofqual ar unwaith. 

Mae'r Awdurdod felly wedi derbyn yn anfoddog ymddiswyddiad y Fonesig Glenys fel Cadeirydd yr Awdurdod o 31 Awst, i'w galluogi i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ei rôl gyda'r rheolydd arholiadau ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Fonesig Glenys: 'Bu'n fraint ac yn bleser cadeirio'r Awdurdod. Mae ganddo rôl hollbwysig i'w chwarae o ran diogelu'r cyhoedd, ac mae gennyf bob ffydd y bydd yn parhau i ymroi'n ddiwyd i'r gwaith pwysig hwn.'

Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod: 'Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd i'r Fonesig Glenys, ond yn deall pwysigrwydd mynd i'r afael â'r problemau yn y system arholiadau. Hoffem ddiolch i Glenys am ei harweiniad cryf dros y misoedd diwethaf a dymuno'n dda iddi i'r dyfodol.'

Bydd yr Awdurdod yn rhoi trefniadau Cadeirydd Dros Dro yn eu lle, ar unwaith, tra'n aros am recriwtio pellach. Darperir manylion pellach maes o law.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion