Antony Townsend wedi'i phenodi'n Gadeirydd Dros Dro'r Awdurdod
28 Awst 2020
Mae'n bleser gan yr Awdurdod gyhoeddi bod Antony Townsend wedi'i benodi'n Gadeirydd Dros Dro, yn dilyn ymadawiad diweddar y Fonesig Glenys Stacey. Bydd Antony yn dechrau yn y swydd hon ar 1 Medi 2020.
Mae Antony yn aelod hynod brofiadol o fwrdd yr Awdurdod, ar ôl ymuno â’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn 2015, ac mae’n Gadeirydd ei Bwyllgor Craffu. Mae Antony hefyd yn Gomisiynydd Cwynion ar gyfer y Rheoleiddwyr Gwasanaethau Ariannol (tan fis Hydref 2020); aelod o Banel Penderfyniadau'r Rheoleiddiwr Pensiynau; Cadeirydd Annibynnol ar gyfer Adolygiadau Gofal Iechyd Parhaus y GIG; a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol Gwasanaeth Tribiwnlysoedd a Dyfarnu'r Bar. Mae'n Ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth De Swydd Warwick.
Mae rolau anweithredol blaenorol yn cynnwys Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, a Chadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol y DU ac Iwerddon Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Cyn gweithio mewn rolau anweithredol, Antony oedd Prif Weithredwr cyntaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr rhwng 2006 a 2014. Cyn hynny bu'n Brif Weithredwr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol; Cyfarwyddwr yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol; a gwas sifil yn y Swyddfa Gartref sy'n gweithio'n bennaf ar faterion cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Antony Townsend, Cadeirydd Dros Dro: 'Gyda chefnogaeth Bwrdd a staff rhagorol yr Awdurdod, edrychaf ymlaen at gyfrannu at y cam nesaf o ddiwygio rheoleiddio gofal iechyd.'
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod: 'Rydym yn ffodus iawn i gael rhywun o allu sylweddol Antony a'i brofiad rheoleiddio helaeth fel ein Cadeirydd Dros Dro.'
Bydd yr Awdurdod yn dechrau recriwtio ar gyfer Cadeirydd parhaol yn fuan.
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk