Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft i reoleiddwyr ar faterion yn ymwneud â gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer rhithwir

01 Medi 2020

Gwahoddwyd yr Awdurdod i gynhyrchu rhai canllawiau i reoleiddwyr ar y materion sy'n ymwneud â gwrandawiadau rhithwir achosion addasrwydd i ymarfer. Mae nifer o reoleiddwyr yn bwriadu cynnal gwrandawiadau fel hyn, gan gynnwys mewn achosion cymharol gymhleth sy'n ymwneud â thystion. 

Rydym yn ymwybodol bod pryderon penodol ynghylch preifatrwydd a chyfranogwyr agored i niwed mewn gwrandawiadau o’r fath, er ein bod hefyd yn ymwybodol y gallant fod yn adnodd ychwanegol gwerthfawr i fynd i’r afael ag ôl-groniadau sy’n deillio o’r cyfyngiadau symud diweddar.

Mae'r Awdurdod wedi bod yn trafod y materion hyn gyda rheoleiddwyr a sefydliadau cynrychioliadol ac wedi cynhyrchu rhai canllawiau drafft, yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi tua diwedd mis Medi, yn amodol ar gymeradwyaeth ein Bwrdd.

Gallwch ddod o hyd i'r canllawiau drafft yma (mae'r drafft hefyd ar gael yn Gymraeg . Rydym yn ceisio barn arno erbyn 11 Medi 2020. Os hoffech anfon sylwadau, anfonwch nhw mewn e-bost at Mark.Stobbs@professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion