Mae'r Awdurdod yn atal achrediad y Gymdeithas Homeopaths

11 Ionawr 2021

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi atal achrediad y Gymdeithas Homeopaths (SoH) yn dilyn ei fethiant i fodloni'r Amodau a osodwyd gan yr Awdurdod yn ystod 2020. Daw'r ataliad dros dro o heddiw ymlaen.

O dan y rhaglen Cofrestrau Achrededig, gall sefydliadau wneud cais am achredu cofrestrau sydd ganddynt o ymarferwyr gofal iechyd heb eu rheoleiddio a rhaid iddynt fodloni Safonau a osodwyd gan yr Awdurdod. Achredwyd y SoH am y tro cyntaf yn 2014. Ym mis Chwefror 2020 adnewyddwyd achrediad, yn amodol ar Amod a oedd yn cynnwys gwneud ei ddatganiadau sefyllfa’n glir na ddylai cofrestryddion ymarfer CEASE, ymarfer na hysbysebu therapïau atodol sy’n anghydnaws â chofrestriad y Gymdeithas, na darparu cyngor ar frechu. . 

Mae'r broses o achredu cofrestrau'n cael ei hadnewyddu'n flynyddol, ond lle mae pryderon difrifol, rydym yn cynnal adolygiad yn ystod y flwyddyn. Gwnaethom gynnal adolygiad o’r SoH yn ystod y flwyddyn yn ystod haf 2020, ar ôl i bryderon gael eu codi mewn perthynas â phenodi swyddog allweddol. Fel y nodwyd yng nghanlyniad ein hadolygiad yn ystod y flwyddyn, cyhoeddwyd tri Amod arall, a disgwylir y ddau gyntaf ym mis Hydref 2020. Ym mis Rhagfyr 2020, cyfarfu Panel i ystyried a oedd y rhain wedi'u bodloni.

Canfuom na fodlonwyd yr Amodau ac nad oedd y SoH wedi bodloni nifer o'n Safonau yn llawn. O ystyried natur gyson y pryderon, a bod nifer o Amodau eisoes wedi'u gosod ar y SoH ers mis Chwefror 2020, penderfynasom atal achrediad.

Bydd yr ataliad yn cael ei adolygu ar ôl 12 mis. Er mwyn cael ei godi, bydd angen i'r SoH ddangos ei fod yn blaenoriaethu diogelu'r cyhoedd dros fuddiannau proffesiynol wrth ymdrin â phrosesau cwynion a llywodraethu. Os gall y SoH ddangos bod hyn yn cael ei gyflawni trwy gyflawni'r Amodau a'r Safonau yn gynharach na 12 mis, yna byddwn yn ystyried codi'r ataliad yn gynt.

Gellir darllen ein penderfyniad yn llawn yma .

Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestrau Achrededig ar gael yn www.professionalstandards.org.uk/what-we-do/accredited-registers

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyswllt:

Christine Braithwaite

Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi

Ffôn: 020 7389 8030

christine.braithwaite@professionalstandards.org.uk

media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu. Mae yna hefyd set o Safonau Cyffredinol.
  4. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  5. Mae cofrestriad achrededig yn wahanol i gofrestriad proffesiynol statudol. Mae'n wirfoddol, nid yn orfodol. Er y gall ymarferwyr weithio mewn galwedigaethau heb eu rheoleiddio heb fod ar unrhyw gofrestr, mae Cynllun Achredu'r Awdurdod bellach yn cynnig y dewis i bobl geisio ymarferwyr ar gofrestr sydd wedi'i fetio a'i chymeradwyo.
  6. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  7. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  8. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  9. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion