Datganiad yr Awdurdod ar gyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gwahaniaethau Hiliol ac Ethnig
08 Ebrill 2021
Bydd yr Awdurdod yn ystyried yr adroddiad diweddar ar hiliaeth yn y DU.
Fodd bynnag, dylem bwysleisio ein bod yn ystyried bod nifer o feysydd lle mae cofrestryddion Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn wynebu heriau sylweddol. Mewn llawer o broffesiynau maent yn parhau i gael eu tangynrychioli ar lefelau uwch ac wedi’u gorgynrychioli mewn prosesau Addasrwydd i Ymarfer.
Mae pandemig Covid-19 wedi dangos anghydraddoldebau sylweddol lle mae cleifion a meddygon a nyrsys o gymunedau BAME wedi dioddef canlyniadau llawer gwaeth o gymharu â’u cydweithwyr gwyn. Mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth ac mae angen eu deall yn iawn ac mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ddeall y rhesymau dros y gwahaniaeth a defnyddio ei ddylanwad i fynd i'r afael â nhw.