Adroddiad ar ragfarn wybyddol wrth wneud penderfyniadau addasrwydd i ymarfer
10 Mehefin 2021
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol heddiw wedi cyhoeddi cyngor arbenigol annibynnol ar ragfarn wybyddol mewn dau fath o wneud penderfyniadau mewn addasrwydd i ymarfer: gwrandawiadau panel a chanlyniadau a dderbynnir gan archwiliwr achos, ffordd newydd o ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer.
Rhoesom y briff canlynol i Leslie Cuthbert, cyfreithiwr sydd ag arbenigedd mewn rhagfarn wybyddol a phrofiad o gadeirio paneli addasrwydd i ymarfer:
- Gan edrych ar y ddau fodel cyferbyniol a’r gwahaniaethau allweddol rhyngddynt, beth yw eich asesiad o sut y gallai rhagfarnau effeithio ar ansawdd y broses o wneud penderfyniadau yn y model AO, o gymharu â model y panel?
- Beth yw eich asesiad o effaith y rhagfarnau hyn, o ran tegwch, gwahaniaethu, diogelu’r cyhoedd, ac unrhyw agweddau eraill a allai fod yn berthnasol i effeithiolrwydd rheoleiddio proffesiynol?
- Yn eich barn chi, beth allai fod yn strategaethau effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r rhagfarnau hyn, yn enwedig yng nghyd-destun AO?
- A yw eich asesiad yn awgrymu unrhyw nodweddion bras o achosion y gellid eu datrys yn well naill ai drwy’r llwybr AO neu lwybr y panel?
Mae'r cyngor yn canfod gwahaniaethau pwysig yn y rhagfarnau sy'n effeithio ar bob dull o wneud penderfyniadau ac mae'n cynnig strategaethau ymarferol ar gyfer delio â nhw. Mae’n dod i’r casgliad bod rhai mathau o achosion y byddai’n well eu gadael i baneli o bosibl: y rhai lle mae amwysedd neu fylchau yn y dystiolaeth, y rhai lle mae symiau sylweddol o waith papur, a’r rhai lle mae ystyriaethau diwylliannol yn debygol o chwarae rhan bwysig.
Gobeithiwn y bydd y darn hwn o waith yn cyfrannu at ddatblygu ein dealltwriaeth gyfunol o ffyrdd newydd o wneud penderfyniadau ym maes addasrwydd i ymarfer.
Darllenwch ein blog i gyd-fynd â’r cyhoeddiad: Tueddiadau gwybyddol wrth wneud penderfyniadau addasrwydd i ymarfer: o ddealltwriaeth i liniaru