Awdurdod i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

16 Gorffennaf 2021

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi penderfynu cyfeirio achos Melanie Hayes i’r Uchel Lys oherwydd ein bod yn ystyried bod y penderfyniad yn annigonol i ddiogelu’r cyhoedd. Roedd hwn yn achos a gwblhawyd trwy benderfyniad panel cydsyniol – hynny yw pan fydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a’r gweithiwr cofrestredig yn cytuno dros dro ar sancsiwn a gynigir wedyn i’r panel. Ystyriodd y panel y sancsiwn a gynigiwyd gan y partïon a'r rhesymau a roddwyd dros ei gyrraedd a chytunwyd bod cosb o ataliad o chwe mis ynghyd ag adolygiad yn briodol.

Ar ôl y gwrandawiad, ysgrifennodd yr NMC at yr Awdurdod yn nodi eu pryderon ynghylch penderfyniad y panel. Fe wnaethant hefyd rannu llythyrau gan gyrff eraill yn mynegi pryderon am y sancsiwn. Fel rhan o'n proses fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau hyn wrth wneud ein penderfyniad annibynnol ein hunain.

Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach nes bod yr achos wedi'i ddatrys.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion