Awdurdod yn ymateb i gyhoeddiad y GMC bod ei Gadeirydd yn ymddiswyddo oherwydd afiechyd
21 Gorffennaf 2021
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn ymateb i gyhoeddiad y GMC bod ei Gadeirydd, y Fonesig Clare Marx, yn rhoi’r gorau i’w swydd oherwydd afiechyd:
Yn yr Awdurdod Safonau Proffesiynol rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Fonesig Clare Marx a'i chydweithwyr yn y GMC i gefnogi diogelwch cleifion trwy reoleiddio meddygon yn y DU.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd y Prif Weithredwr Alan Clamp:
'Rydym yn mynegi ein gofid mawr ar glywed y newyddion trist hwn. Hoffwn ddiolch i'r Fonesig Clare ar ran yr Awdurdod am ei hymrwymiad i ofal diogel i gleifion drwy gydol ei swydd. Yn nodedig, mae ei gwaith i gefnogi meddygon, cleifion a'r cyhoedd yn ystod y pandemig wedi bod yn arddangosiad clir o arweinyddiaeth dosturiol.'
Bydd y Fonesig Carrie MacEwen yn ymgymryd â rôl y Cadeirydd Dros Dro tra bydd Cadeirydd parhaol newydd yn cael ei recriwtio.