Prif gynnwys
Rhaglen ddogfen 'I can Cure you' gan y BBC ar rolau heb eu rheoleiddio sy'n ymwneud â chwnsela a seicotherapi
06 Tachwedd 2021
Mae ' I can cure you ' yn rhaglen ddogfen gan y BBC sydd ar gael ar iPlayer o ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd am gwnsela a seicotherapi. Mae’n trafod pryderon am ddiogelwch cleifion. Mae hefyd yn archwilio rôl y rhaglen Cofrestrau Achrededig sy'n rhoi sicrwydd ar gyfer rolau gofal iechyd nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan y gyfraith. Gweler ein datganiad llawn isod.
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn helpu i gadw cleifion yn ddiogel. Mae'n goruchwylio'r rheolyddion sy'n gyfrifol am weithwyr iechyd proffesiynol fel nyrsys a meddygon. Mae hefyd yn achredu cofrestrau o ymarferwyr iechyd sy'n gweithio mewn rolau heb eu rheoleiddio, megis cwnsela a seicotherapi, ac yn dyfarnu nod ansawdd i'r cofrestrau hyn os ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol.
Mae angen i gleifion wybod dau beth:
- y bernir bod y person sy'n rhoi triniaeth neu ofal iddo yn ddiogel ac wedi'i hyfforddi'n dda; a
- os aiff rhywbeth o'i le, mae rhywun i droi ato.
Rydym yn argymell bod pobl yn dewis ymarferwyr o gofrestr rydym wedi’i hachredu yn hytrach nag o gofrestr heb ei hachredu neu rywun nad yw wedi’i gofrestru o gwbl.
Mae'n hawdd ei wneud. Ewch i'n gwefan a chadwch lygad am ein marc ansawdd. Dim ond ymarferwyr ar gofrestrau rydym wedi'u hachredu sy'n gallu ei defnyddio.
Mae cofrestrau achrededig yn helpu pobl i gael gwell gofal trwy wirio bod yr ymarferwyr iechyd y maent yn eu cofrestru yn gymwys ac yn ddibynadwy. Maent yn gosod safonau ar gyfer eu cofrestreion ac yn ymchwilio i gwynion, sy'n golygu bod rhywun i droi ato os aiff rhywbeth o'i le. Mewn achosion difrifol byddant yn dileu'r ymarferydd oddi ar ei gofrestr fel bod y bobl sy'n ei defnyddio yn cael eu hamddiffyn rhag arfer gwael.
Mae 23 o gofrestrau achrededig i ddewis ohonynt, gan gynnwys galwedigaethau fel cwnsela, ymarfer cosmetig (fel Botox a llenwyr), therapi chwarae, adsefydlu chwaraeon a therapïau cyflenwol.
Rydym am i bawb wybod am y rhaglen Cofrestrau Achrededig fel bod mwy o bobl yn elwa ar y diogelwch a ddarperir gan gofrestrau achrededig.