Ffederasiwn Therapyddion Cyfannol i adael y rhaglen Cofrestrau Achrededig ym mis Ionawr 2022
15 Tachwedd 2021
Mae Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol (FHT) wedi cyhoeddi y bydd yn tynnu'n ôl o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig, a ddaw i rym ar 9 Ionawr 2022. O'r dyddiad hwn, ni fydd y FHT a'i gofrestryddion yn gallu arddangos ein Marc Ansawdd.
Cyflwynwyd tri Amod i'r FHT yn ei adolygiad blynyddol diwethaf o achredu ym mis Mehefin 2021 . Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn nodi a yw’r Amodau a ddisgwylir erbyn mis Ionawr 2022 wedi’u bodloni ar ôl iddynt gael eu hasesu.