Datganiad yr Awdurdod ar benderfyniad MPTS yn achos Dr Manjula Arora
01 Mehefin 2022
Rydym yn ymwybodol o benderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) i atal Dr Manjula Arora am fis. Mae'r penderfyniad hwn, ynghyd ag ymchwiliad y GMC a phenderfyniad cyflogwr Dr Arora i atgyfeirio'r achos i'r GMC, wedi achosi pryder sylweddol o fewn y gymuned feddygol. Rydym wedi derbyn gohebiaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA), Cymdeithas Meddygon y DU (DAUK) a Chymdeithas Meddygon Tarddiad Indiaidd Prydain (BAPIO) amdano.
Ni fydd yr Awdurdod yn gwneud sylw ar sylwedd y penderfyniad ar hyn o bryd. Nid ydym eto wedi cwblhau ein hasesiad ohono o dan ein hawdurdodaeth Adran 29 ac ni fyddem ychwaith yn dymuno effeithio ar unrhyw apêl a gyflwynir gan Dr Arora.
Hoffem ddeall mwy am y pryderon yn yr achos hwn ac i ba raddau y gallant fod yn berthnasol i achosion eraill. Byddwn yn ceisio rhagor o wybodaeth gan y GMC, yn arbennig am ganlyniad ei adolygiad. Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn rhagor o wybodaeth gan y BMA, DAUK, BAPIO a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb. Bydd y wybodaeth hon yn helpu i lywio cwmpas unrhyw waith pellach a wnawn, fel rhan o'n swyddogaeth adolygu perfformiad, i ddeall sut mae prosesau addasrwydd i ymarfer y GMC yn gweithredu, gan gynnwys yr effaith y maent yn ei chael ar gofrestryddion o leiafrifoedd ethnig a meddygon a hyfforddwyd dramor. .
Rydym yn croesawu adborth yn ehangach i'n mewnflwch Rhannu eich profiad: Share@professionalstandards.org.uk neu cewch ragor o wybodaeth am rannu profiad ac adborth gyda ni yma .
DIWEDD
Cyswllt: media@progressionalstandards.org.uk
Nodyn i Olygyddion
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk