Awdurdod yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a chyfrifon 2021/2022
30 Mehefin 2022
Heddiw cyhoeddwyd ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2021/2022. Fe wnaethom barhau i amddiffyn y cyhoedd trwy ein gwaith, gan oruchwylio 10 o reoleiddwyr statudol a 23 o gofrestrau achrededig.
Roedd uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys:
- Ein Hadolygiad Dysgu o Covid-19
- Ein hadolygiad cyntaf o'r rheolydd newydd Social Work England
- 15 o apeliadau llwyddiannus gan ddefnyddio ein pwerau adran 29
- Prawf 'budd y cyhoedd' newydd ar gyfer ein rhaglen cofrestrau achrededig
- Ymagwedd newydd at ein hadolygiadau perfformiad
- Cyhoeddiadau ymchwil ar ragfarn wybyddol; ac ar wneud penderfyniadau moesegol yn ystod y pandemig
- Ymateb i gynigion y llywodraeth ar ddiwygio rheoleiddio.
Darllenwch ein huchafbwyntiau .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'r dull a gymerwn ar gael yma .