Ymarferwyr Ymchwil Clinigol yn lansio ymgyrch i hyrwyddo rhaglen Cofrestrau Achrededig
18 Gorffennaf 2022
Mae'r Awdurdod yn croesawu lansiad ymgyrch heddiw gan y Gofrestr Ymarferwyr Ymchwil Clinigol (CRP) sy'n rhan o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig .
Nod yr ymgyrch 'Rwy'n cefnogi cofrestriad Ymarferwyr Ymchwil Clinigol' yw codi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ac o'r manteision y mae cofrestru i ymarferwyr yn eu cynnig i gleifion, cydweithwyr a chyflogwyr – ac annog mwy o ymarferwyr i ymuno â'r Gofrestr. Agorodd y Gofrestr CRP flwyddyn yn ôl gan roi cyfle i gofrestreion ddangos ymrwymiad i safonau proffesiynol, ymddygiad moesegol a chymhwysedd technegol.
Mae Cofrestrau Achrededig hefyd yn cynnig buddion i'r gweithlu ehangach gan y gallant ddewis o gronfa o ymarferwyr cymwys, sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac y gellir ymddiried ynddynt nad ydynt fel arall yn cael eu rheoleiddio gan y gyfraith. Drwy dyfu’r Gofrestr, gall timau cyflawni ymchwil ledled y DU ymddiried yn y sicrwydd y mae’n ei gynnig.
Dywedodd yr Athro Ruth Endacott, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR): 'Yn gyffredin â'r rhan fwyaf o ofal iechyd, mae arnom angen tîm o bobl o wahanol gefndiroedd proffesiynol sydd â sgiliau cyflenwol i gyflwyno astudiaethau ymchwil. Mae Ymarferwyr Ymchwil Clinigol yn gaffaeliad gwych i dimau ymchwil ac mae'n bleser gen i ddangos fy nghefnogaeth i'r cofrestriad achrededig sy'n darparu cydnabyddiaeth ffurfiol, a llwybr gyrfa, i'n cydweithwyr CRP.'
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr, yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: 'Rydym yn cefnogi'r ymgyrch sy'n cael ei rhedeg gan y Gofrestr CRP ac yn gobeithio y bydd yn annog mwy o ymarferwyr i ymuno. Mae'r sicrwydd ychwanegol y mae hyn yn ei roi yn dda i gleifion a chyflogwyr a dyma'r ffordd orau o hyrwyddo ansawdd. Mae'r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn cynnig haen o amddiffyniad i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal ac yn rhoi cyfle i Ymarferwyr Ymchwil Clinigol ddangos eu hymrwymiad i arfer da.'
Am y Gofrestr CRP
Mae'r Gofrestr CRP yn cael ei rhedeg gan yr Academi Gwyddorau Gofal Iechyd, sy'n cofrestru llawer o alwedigaethau yn y proffesiwn gwyddor gofal iechyd, mewn partneriaeth â'r NIHR.
Mae CRP yn deitl ymbarél a ddefnyddir ar gyfer teulu o rolau mewn cyflwyno ymchwil sydd ag elfen sy'n wynebu'r claf a lle nad yw deiliad y swydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd i broffesiwn gofal iechyd. Darganfod mwy am y gofrestr achrededig a sut y gall CRPs gychwyn eu cais.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yma.