Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2021/22

14 Rhagfyr 2022

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn ystod 2021/22, buom yn monitro perfformiad y GMC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).

Ar gyfer y cyfnod hwn, mae'r GMC wedi bodloni pob un o'r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.
 

Eleni adroddodd y GMC ar gynnydd y flwyddyn gyntaf tuag at y targedau tymor hwy y mae wedi'u gosod i ddileu anfanteision a brofir gan feddygon o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig mewn cyrhaeddiad addysgol ac atgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer gan gyflogwyr. Bu hefyd yn gweithio ar ddau adolygiad yn deillio o bryderon ynghylch penderfyniadau mewn dau achos: yr Adolygiad Tegwch Rheoleiddiol a'i adolygiad dysgu o achos Dr Arora. Rydym yn cydnabod y pryder ymhlith rhanddeiliaid ynghylch tegwch penderfyniadau yn yr achosion hyn. Nodwn y gwaith y mae'r GMC yn ei wneud i ddysgu o achosion o'r fath. Byddwn yn monitro cynnydd y GMC yn agos wrth fynd i'r afael â'r argymhellion ar ei gyfer yn yr adolygiadau hyn ac yn disgwyl iddo ddangos cynnydd pellach wrth sicrhau bod ei brosesau'n deg.

Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.

Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad monitro o'r GMC.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion