Mae'r PSA yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol ar gyfer 2022/23

23 Awst 2023

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC). Yn ystod 2022/23, fe wnaethom gynnal adolygiad cyfnodol o berfformiad y GCC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).

Ar gyfer y cyfnod hwn, mae'r GCC wedi bodloni 18 o'r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.

Dangosodd y GCC ei ymrwymiad parhaus i faterion yn ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) eleni, ac mae wedi gwneud cynnydd da wrth roi ei gynllun gweithredu ar waith. Fel rhan o hyn, cynhaliodd y GCC adolygiad thematig o achosion addasrwydd i ymarfer a gaewyd gan ei Bwyllgor Ymchwilio. Ni chododd yr adolygiad unrhyw bryderon am brosesau’r GCC ond nododd rai meysydd i’w gwella, megis cynyddu amrywiaeth y pwyllgorau addasrwydd i ymarfer, y mae’r GCC wedi dechrau mynd i’r afael â hwy.

Cyflwynodd y GCC ei Safonau Addysg newydd eleni, ar ôl ceisio barn rhanddeiliaid trwy ymgynghoriad cyhoeddus a grwpiau ffocws. Mae'r Safonau newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, EDI a gwaith cydweithredol ac integredig gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Ni chyflawnodd y GCC Safon 15 y llynedd oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i symud ymlaen ag ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer. Rydym yn falch o adrodd bod y GCC wedi bodloni Safon 15 eleni gan ei fod wedi gwella'n sylweddol yr amser y mae'n ei gymryd i symud achosion ymlaen o dderbyn atgyfeiriad i benderfyniad gwrandawiad terfynol. Fodd bynnag, mae’r amser a gymerir o atgyfeirio i benderfyniad y Pwyllgor Ymchwilio wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol ac ni fu unrhyw newid sylweddol yn nifer yr achosion agored hŷn felly byddwn yn monitro’r data’n agos i gael tystiolaeth bod achosion yn cael eu symud ymlaen ac dim ôl-groniad yn datblygu.

Fe wnaethom adolygu sampl o benderfyniadau Pwyllgorau Ymchwilio eleni a chanfod yn gyffredinol eu bod yn rhesymol, gyda rhesymau clir, cywir a manwl wedi'u cofnodi. Mae gan y GCC reolaethau rhesymol a chymesur ar waith i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn dda a chanfuom fod y rheolaethau hynny’n gweithio’n effeithiol;

Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.

Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad cyfnodol o’r GCC.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd 

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion