Datganiad ar bryder y chwythwr chwiban am y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
26 Medi 2023
Mae gan chwythwyr chwiban ran hanfodol i'w chwarae wrth amlygu pryderon. Mae'n bwysig, pan wneir datgeliadau, eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif, eu trin yn sensitif a'u harchwilio'n briodol i nodi lle mae angen gweithredu.
Rydym yn ymwybodol o bryder chwythu’r chwiban a’r materion difrifol a godwyd. Mae’r NMC yn ymchwilio i’r rhain, ac ni allwn wneud sylw ar ymchwiliad agored. Byddwn yn monitro hyn fel rhan o'n trosolwg o'r NMC a byddwn yn adolygu sut mae'n ymdrin â'r materion a godwyd. Byddwn hefyd yn siarad â'r Comisiwn Elusennau.
Rydym wedi cynnig cyfarfod â’r chwythwr chwiban i drafod eu pryderon.
Yn y PSA mae ein rôl o oruchwylio’r 10 rheolydd iechyd a gofal cymdeithasol statudol yn cynnwys cynnal adolygiadau perfformiad i wirio pa mor dda y mae’r rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ystyried ystod o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth a rennir gyda ni gan unigolion, wrth i ni gynnal ein hadolygiadau rheolaidd o berfformiad y rheolyddion. Rydym hefyd yn gwirio penderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol rheolyddion i wneud yn siŵr eu bod yn ddigonol i amddiffyn y cyhoedd.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Gallwch ddarllen ein hadolygiad perfformiad diweddaraf o'r NMC yma .
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk