Dull newydd o gynnal ein hadolygiadau perfformiad: cyhoeddi adroddiad gwerthuso blwyddyn
05 Hydref 2023
Rydym wedi cyhoeddi ein gwerthusiad o'r dull adolygu perfformiad newydd, ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y cylch newydd.
Yn gyffredinol, rydym yn ystyried bod blwyddyn gyntaf y broses newydd yn llwyddiannus. Rydym naill ai wedi cyflawni bron pob un o’r manteision allweddol neu’n rhannol, er ei bod yn rhy gynnar i ddweud i ba raddau yr ydym wedi llwyddo i leihau baich cyffredinol y broses. Nid yw’r risgiau allweddol, hyd y gallwn ddweud, wedi dod i’r amlwg i’r graddau na allem eu lliniaru.
Rydym wedi nodi gwelliannau sylweddol dros yr hen broses, yn enwedig o ran faint o amser y mae'n ei gymryd i gyhoeddi ein hadroddiadau a chyfraniad rhanddeiliaid at ein hadolygiadau. Mae ein hymgysylltiad cynyddol â rheoleiddwyr wedi hwyluso'r gwelliannau hyn ac yn rhoi llwyfan i ni ar gyfer ein gwaith datblygu pellach.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk