Mae'r PSA yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2022/23

08 Rhagfyr 2023

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn ystod 2022/23, buom yn monitro perfformiad y GMC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).

Ar gyfer y cyfnod hwn, mae'r GMC wedi bodloni 18 o'r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.

Mae'r GMC wedi parhau i weithio tuag at, ac adrodd ar, ei dargedau i ddileu anfanteision a brofir gan feddygon o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig mewn cyrhaeddiad addysgol ac atgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer gan gyflogwyr. Mae hefyd wedi cyhoeddi ei Adolygiad Tegwch Rheoleiddiol ac wedi adrodd ar ei gynnydd tuag at fodloni argymhellion yr adolygiad. Byddwn yn parhau i fonitro gwaith y GMC yn y maes hwn yn agos. Mae'r GMC hefyd wedi cyhoeddi fersiwn diwygiedig o Good Medical Practice eleni, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2024. O ran addasrwydd i ymarfer, rydym wedi gweld gwelliannau ym mesurau amseroldeb y GMC.
 

Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.
 

Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad monitro o'r GMC.
 

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
 

Nodiadau i'r Golygydd
 

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion