Cynghrair o Ymarferwyr Sector Preifat i adael y rhaglen Cofrestrau Achrededig

27 Mawrth 2024

Mae Cynghrair Ymarferwyr y Sector Preifat (y Gynghrair) wedi cyhoeddi y bydd yn tynnu'n ôl o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2024. O'r dyddiad hwn, ni fydd y Gynghrair na'i chofrestryddion yn gallu arddangos ein Marc Ansawdd.

Roedd asesiad adnewyddu llawn y Gynghrair yn erbyn ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Byddwn yn cwblhau'r asesiad hwn ac yn cyhoeddi'r canlyniad maes o law ar ein gwefan.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

1. Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy'n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.

2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym yn ystyried bod sancsiynau’n annigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.

3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.

4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.

6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i'n gwaith.

7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion