Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi PSA yn cyhoeddi ymddeoliad
31 Mai 2024
Mae Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi’r PSA yn ymddeol ar 5 Gorffennaf 2024, ar ôl 14 mlynedd yn gweithio i’r PSA i amddiffyn y cyhoedd. Mae ei gyrfa ym maes diogelwch cleifion/defnyddwyr gwasanaeth yn ymestyn dros bron i 30 mlynedd gan gynnwys amser gydag Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd, y Comisiwn Ansawdd Gofal a’r ddau gorff a’i rhagflaenodd.
Yn dilyn proses recriwtio allanol, bydd Melanie Venables, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Achredu’r PSA, yn cymryd y rôl, a ailenwyd yn Gyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu, ar 1 Gorffennaf 2024.
Dywedodd Christine Braithwaite:
"Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu'r cyhoedd, yma ac yn fy rolau blaenorol. Mae'n hollbwysig bod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cadw'n ddiogel, ac rwy'n talu teyrnged i'r holl bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw yma, ac yn fy rolau blaenorol i'w hamddiffyn.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Swyddog Gweithredol PSA:
"Mae Christine wedi bod yn amhrisiadwy i waith y PSA dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae ei hymrwymiad i ddiogelu'r cyhoedd wedi bod yn rhagorol. Bydd colled fawr ar ôl ei doethineb a'i chwmnïaeth. Hoffwn ddiolch i Christine am bopeth y mae hi wedi'i wneud i ni a dymuno ymddeoliad hamddenol a boddhaus iddi."
Rydym yn croesawu Melanie Venables fel ein Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu newydd. Bydd sgiliau, profiad ac angerdd Melanie dros reoleiddio a chofrestru da yn hynod fuddiol i’n gwaith.”
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk