PSA yn ymateb i gyhoeddiad Adolygiad Diwylliant Annibynnol o'r NMC
09 Gorffennaf 2024
Mae’r adolygiad diwylliant annibynnol a gynhaliwyd gan Nazir Afzal OBE a Rise Associates ar y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) wedi canfod bod pobl sy’n gweithio yn y sefydliad wedi profi hiliaeth, gwahaniaethu a bwlio, a thystiolaeth o fethiannau diogelu. Mae hyn yn peri pryder ac mae'r rhain yn faterion yr ydym yn eu cymryd o ddifrif. Rydym yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion yn ofalus. Rydym yn ddiolchgar am ddewrder y chwythwr chwiban wrth godi’r pryderon a arweiniodd at yr adolygiad hwn.
Amlygodd yr adroddiad, ers mis Ebrill 2023, fod chwech o bobl wedi marw trwy hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad tra dan, neu ar ôl cwblhau, ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer gan yr NMC. Rydym am estyn ein cydymdeimlad i deuluoedd y chwe pherson hynny.
Gwerthfawrogwn y bydd y rhai yr effeithir arnynt, cofrestreion yr NMC a'r cyhoedd ehangach yn gofyn cwestiynau am sut y digwyddodd hyn, a pha gamau sydd i'w cymryd yn awr. Rydym yn falch o weld bod yr NMC wedi derbyn holl argymhellion yr adolygiad a byddwn yn monitro camau gweithredu'r NMC yn agos i fynd i'r afael â'r rhain.
Yn ein rôl oruchwylio o ran sut y maent yn cyflawni eu hamcanion rheoleiddio, rydym yn gwerthuso a yw'r NMC a'r rheolyddion statudol eraill yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da trwy ein hasesiadau Adolygu Perfformiad. Ar hyn o bryd mae ein Safonau yn canolbwyntio ar swyddogaethau rheoleiddio allweddol addasrwydd i ymarfer, addysg a hyfforddiant, cofrestru, canllawiau a safonau. Mae gennym hefyd safonau cyffredinol sy'n cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; adrodd ar berfformiad a mynd i'r afael â phryderon sefydliadol; ac ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i reoli risg i'r cyhoedd.
Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad diwethaf ar yr NMC ym mis Medi 2023. Canfuom fod gan yr NMC nifer o feysydd lle'r oedd angen gwelliannau ac nad oedd yn bodloni Safon 15. Mae'r Safon hon yn nodi: 'Mae proses y rheolydd ar gyfer archwilio ac ymchwilio i achosion yn deg, yn gymesur, delio ag achosion mor gyflym ag sy'n gyson â datrysiad teg i'r achos a sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael i gefnogi penderfynwyr i ddod i benderfyniad teg sy'n amddiffyn y cyhoedd ar bob cam o'r broses.' Nid yw’r NMC wedi bodloni’r Safon hon ers ei adolygiad perfformiad yn 2018/19. Ym mis Medi 2022, gwnaethom uwchgyfeirio ein pryderon am berfformiad yr NMC yn y maes hwn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; ac wedi parhau i'w diweddaru yn dilyn pob adolygiad perfformiad ers hynny.
Ar hyn o bryd rydym yn asesu perfformiad yr NMC ar gyfer 2023/24. Fel rhan o hyn, byddwn yn ystyried canfyddiadau adolygiad Rise. Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau adolygiadau Ijeoma Omambala KC o achosion addasrwydd i ymarfer ac ymdriniaeth yr NMC o bryderon chwythu’r chwiban, y disgwyliwn eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad Adolygiad Perfformiad 2023/24 yr NMC cyn gynted â phosibl ar ôl yr amser hwn. Yn y cyfamser, byddwn yn ystyried goblygiadau uniongyrchol adolygiad Rise gyda phedair adran iechyd y DU, ac yn monitro camau gweithredu'r NMC yn agos i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad.
Nodwn fod adolygiad Rise yn cynnwys argymhelliad i ni gynnal adolygiadau blynyddol manylach o berfformiad yr NMC yn erbyn ein Safonau, gan gynnal adolygiad manylach o achosion a ddewiswyd ar hap ym mhob cam o brosesau'r NMC. Rydym yn cytuno y bydd angen monitro gwell gan yr NMC yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gweithredu a'u cynnal. Byddwn yn rhoi diweddariad ar sut y byddwn yn cyflawni hyn yn fuan, unwaith y byddwn wedi ystyried canfyddiadau’r adolygiad yn llawn. Byddwn hefyd yn ystyried y dystiolaeth y byddwn yn edrych arni fel rhan o'n hadolygiadau perfformiad, a'n proses yn gyffredinol, i weld a ellir gwella'r rhain ymhellach i'n helpu i nodi'r mathau o faterion a godwyd yn adolygiad Rise yn gynharach.
Fel rhan o'n harferion rheolaidd, rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein Safonau. Mae hyn yn rhoi cyfle i edrych hefyd i weld a ddylem ystyried diwylliant, arweinyddiaeth a llywodraethu mewnol fel rhan o sut rydym yn asesu pa mor dda y mae rheolydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodyn i Olygyddion
- Mae’r PSA yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk