Mae’r PSA yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023/24
25 Gorffennaf 2024
Mae’r PSA wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023/24 .
Mae ein hadroddiad yn nodi blwyddyn heriol ond cynhyrchiol arall i'r PSA. Rydym yn cydnabod bod yr heriau hyn yn cael eu hadlewyrchu’n ehangach ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein hadroddiad blynyddol yn rhoi cyfle i adrodd ar sut rydym wedi cyflawni ein dyletswyddau statudol yn ystod 2023/24. Eleni rydym wedi parhau â’n gwaith i amddiffyn cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd drwy wella’r broses o reoleiddio a chofrestru gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gan gynnwys:
- Parhau i gefnogi diwygio rheoleiddiol – fe wnaethom ddrafftio ac ymgynghori ar ddwy ddogfen ganllaw a gynlluniwyd i helpu rheoleiddwyr diwygiedig i weithredu eu pwerau newydd
- Ymgorffori ein dull newydd o gynnal adolygiadau perfformiad
- Ehangu’r rhaglen Cofrestrau Achrededig – fe wnaethom achredu pedair cofrestr newydd yn ystod 2023/24
- Cynyddu ein disgwyliadau o’r hyn y dylai rheolyddion fod yn ei wneud i hyrwyddo a monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – byddwn yn edrych yn ofalus ar berfformiad yn erbyn y Safon hon yn 2024/25
- Gweithio gyda’r rheolyddion i weld sut y gallant leihau’r ôl-groniadau yn eu hachosion addasrwydd i ymarfer
- Cwblhau apeliadau 24 o benderfyniadau terfynol y panel addasrwydd i ymarfer – a chafodd pob un ond un eu cadarnhau neu eu setlo
- Cydweithio â rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â’r argymhellion a nodwyd gennym yn ein hadroddiad 2022 Gofal mwy diogel i bawb , gan gynnwys cynnal digwyddiadau ar y cyd a’n cynhadledd ymchwil flynyddol.
Yn agos at ddiwedd y flwyddyn fe wnaethom hefyd gyhoeddi Gwneud gofal yn fwy diogel i bawb - maniffesto ar gyfer newid 2024 . Amlinellodd ein hargymhellion i Lywodraeth y DU i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr y PSA:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol ond nid heb ei heriau. Cawsom ein syfrdanu a’n tristau gan rai o’r digwyddiadau ym maes gofal iechyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys achos Lucy Letby a chyhoeddi’r adroddiad ar yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig. Credwn y gall rheoleiddio proffesiynol wneud mwy i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth newydd i gynnig ein cefnogaeth a chyngor i fynd i’r afael â’r rhain yn yr hyn sy’n debygol o fod yn 2024/25 prysur iawn.”
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym yn ystyried bod sancsiynau’n annigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Cyhoeddwyd ein maniffesto Gwneud gofal yn fwy diogel i bawb - maniffesto ar gyfer newid 2024 ar 12 Mawrth 2024.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk