Interpersonal Psychotherapy UK yn cwrdd â 'prawf lles y cyhoedd' Cofrestrau Achrededig

11 Hydref 2024

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar gais Interpersonal Psychotherapy UK (IPT UK) am asesiad yn erbyn Safon Un o'n Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Fe'i gelwir hefyd yn 'brawf lles y cyhoedd', ac mae Safon Un yn ystyried a yw buddion gweithgareddau'r rolau a gofrestrwyd gan IPT UK yn debygol o orbwyso'r risgiau.

Gallwn wneud asesiad dros dro yn erbyn Safon Un i helpu i benderfynu a yw Cofrestr yn dod o fewn cwmpas y rhaglen Cofrestrau Achrededig, cyn cyflwyno cais llawn.

Canfuom fod IPT UK yn bodloni Safon Un dros dro, er i ni argymell rhai meysydd i'w hystyried cyn gwneud cais llawn am achrediad. Mae ein hadroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Mae IPT UK yn cofrestru ymarferwyr seicotherapi rhyngbersonol, sef triniaeth a ddefnyddir i drin neu ymdrin â phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys iselder, anhwylder straen wedi trawma ac anhwylderau bwyta.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni ac yn parhau i'w bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Lawrlwythiadau