Pum mlynedd ac yn cyfrif…llwyddiant Cofrestrau Achrededig

19 Gorffennaf 2018

Roeddwn yn falch iawn o agor y Gynhadledd Cofrestrau Achrededig yn ddiweddar a chael y cyfle i fyfyrio ar bum mlynedd a mwy y rhaglen Cofrestrau Achrededig a’i dyfodol.

Mae'r rhaglen Cofrestrau Achrededig wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol. Mae wedi tyfu o fod yn grŵp amrywiol o sefydliadau â diddordeb i raglen o 25 o gofrestrau sy'n cynnwys dros 85,000 o ymarferwyr. I roi hyn mewn persbectif, mae hynny’n fwy o gofrestreion na phump o’r rheolyddion statudol yr ydym yn eu goruchwylio. Fel yr ydym wedi’i ddweud yn yr adroddiad Untapped Resources , mae’r gweithlu hwn yn barod i wneud mwy o gyfraniad at oresgyn yr heriau iechyd cyhoeddus sy’n ein hwynebu heddiw.

Un o gryfderau'r rhaglen yw amrywiaeth y galwedigaethau a gwmpesir gan y Cofrestrau. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn peri her. Po fwyaf o alwedigaethau o fewn y rhaglen, y mwyaf yw'r gwaith cyfathrebu sydd ei angen i hysbysu defnyddwyr gwasanaethau, cyflogwyr, comisiynwyr ac eraill am ei hamrywiaeth a'i chwmpas. Mae angen i'r grwpiau hyn, yn enwedig defnyddwyr gwasanaethau, fod yn ymwybodol o'r rhaglen a'r hyn y mae achredu yn ei olygu (ac yn bwysig, yr hyn nad yw'n ei olygu) er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa ymarferwyr i'w gweld, eu cyflogi neu eu comisiynu.

Byddai mwy o wybodaeth am reoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yn helpu i roi'r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn ei chyd-destun. Pan aiff ein tîm allan i drafod y rhaglen, maent yn gweld nad oes gan lawer o bobl lawer o ddealltwriaeth o reoleiddio gofal iechyd. Mae hyn yn gwbl ddealladwy (efallai nad yw rheoleiddio mor gyffrous i'r boblogaeth gyffredinol ag ydyw i ni), ond mae'n ei gwneud yn heriol codi ymwybyddiaeth o fanteision y rhaglen.

Edrych ymlaen – mae angen codi ymwybyddiaeth o'r rhaglen a'i gwerth

Mae dyfodol a chynaliadwyedd y rhaglen wedi bod yn bwnc trafod ymhlith y Cofrestrau ers tro, a rhwng yr Awdurdod a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n hanfodol inni godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen a’i gwerth yn sylweddol. Bydd hyn yn gofyn am fewnbwn cydgysylltiedig gan bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys ni, Cofrestrau Achrededig, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac eraill.

Rydym yn gweld y Cofrestrau Achrededig fel rhan gynyddol bwysig o’r dirwedd reoleiddiol ac rwy’n falch ein bod wedi dod i gytundeb â’r Adran ar gyllid parhaus hyd y gellir rhagweld. Mae hon yn garreg filltir bwysig i ganiatáu i’r rhaglen barhau i ffynnu wrth iddi weithio tuag at ddod yn hunangynhaliol yn ariannol.

Deunydd cysylltiedig

Harry Cayton gyda Philip Dunne AS yn lansiad yr adroddiad Untapped Resources ar 31 Hydref 2017.

Darganfod mwy am y rhaglen Cofrestrau Achrededig

Darllenwch ystadegau allweddol ar gyfer y rhaglen ar gyfer 2017/18

Darllenwch yr adroddiad Adnoddau Heb Gyffwrdd - Cofrestrau Achrededig yn y Gweithlu Ehangach

Dysgwch fwy am y gynhadledd yn rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr

 

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion