Ail-lunio Safonau, Galluogi Newid

17 Mawrth 2020

Ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, mae Colum Conway, Prif Weithredwr Social Work England, yn esbonio pam mae angen i reoleiddio proffesiynol fod mewn sefyllfa well i ddarparu dull mwy ymatebol a chymesur, gweithio ar y cyd ac ail-ffocysu ar weithio 'i fyny'r afon'.

I’r rhai ohonom sydd wedi bod yn neu o gwmpas rheoleiddio proffesiynol am y saith mlynedd diwethaf, mae sgyrsiau am ddiwygio ar waith yn ymarferol a deddfwriaeth yn dir cyfarwydd. Mae awydd gwirioneddol yn y sector am newid. Mae angen i reoleiddio proffesiynol fod mewn sefyllfa well i ddarparu dull mwy ymatebol a chymesur ac i gyflwyno dulliau ymarfer sy'n fwy cydweithredol ac ataliol eu natur. Rhaid canolbwyntio ar fuddsoddi mewn gwaith 'i fyny'r afon'.

I mi, mae penderfyniad polisi’r llywodraeth i sefydlu Social Work England yn rhoi ffocws penodol ar weithwyr cymdeithasol a’r proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae'n cael ei danategu gan yr awydd am newid, i wneud pethau'n wahanol wrth reoleiddio gweithwyr cymdeithasol ac i gael effaith wahanol a mwy deinamig ar ymarfer gwaith cymdeithasol trwy ddull cwbl newydd. Ein her yw cofleidio'r awydd hwn am newid yn llawn o fewn fframwaith rheoleiddio cadarn.

Drwy gydol cyfnod sefydlu'r sefydliad bu'n bwysig i ni ddatblygu ein safonau, rheolau a phrosesau o fewn y cyd-destun hwn o newid ac arloesi. Yn bwysicaf oll, trwy gynnwys y rhai y bydd y newid a'r arloesi hwnnw'n effeithio arnynt. Mae cefnogi pobl sy’n dod i mewn i’r sefydliad i ganolbwyntio ar y ffyrdd y byddwn yn gwneud pethau’n wahanol wedi bod yn sylfaenol i’n dull gweithredu.

Mae wedi bod o gymorth mawr inni gael ein sefydlu o dan ddeddfwriaeth newydd sy’n cynnwys llawer o’r elfennau allweddol a gynigir fel rhan o ddiwygio rheoleiddio proffesiynol. Dyma un o’r heriau mwyaf diddorol, sef bod ar flaen y gad o ran arloesi yn y maes hwn, datblygu ffyrdd newydd o weithio i roi dulliau newydd ar waith ac arwain a galluogi newid.

Deunydd cysylltiedig

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion