Hwyl fawr i'n Cadeirydd
31 Mawrth 2020
Mae’r amgylchiadau presennol wedi golygu na allem ffarwelio’n bersonol â’n Cadeirydd, George Jenkins, sy’n rhoi’r gorau iddi heddiw – felly rydym yn ffarwelio ac yn dymuno pob lwc iddo ar-lein trwy ein blog.
Ar ôl pedair blynedd gofiadwy o arweinyddiaeth gwrtais, mae heddiw yn nodi diwedd tymor George Jenkins fel Cadeirydd yr Awdurdod. Er bod yr amgylchiadau presennol wedi ein rhwystro rhag gwneud hynny’n bersonol, rydym yn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i George am ei waith yn cyrraedd y nod o ran ein cynnydd o ran diwygio rheoleiddio, a’i frwdfrydedd diwyro dros yr hyn a wnawn a’n rôl o ran diogelu’r cyhoedd.
Mae George wedi gwneud gwaith gwych o arwain yr Awdurdod a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ein hamcanion strategol – a manteision hyn ar gyfer diogelu cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Ers i George ymgymryd â’r swydd yn 2016, mae’r Awdurdod wedi cyhoeddi 18 o adolygiadau perfformiad rheoleiddwyr, 22 o adroddiadau, ac wedi craffu ar 12,000 o benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol. Gellir priodoli llawer o gynnydd yr Awdurdod o ran diwygio rheoleiddio hefyd i gyfraniadau George dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae'r cyhoeddiad Right-touch reform wedi helpu i ddylanwadu ar y ddadl a chyflwyno cynigion ar gyfer datblygu a gwella yn y dyfodol. Mae'n rhoi cyd-destun o'r dirwedd reoleiddiol bresennol yn ogystal â dadansoddiad manwl o'r hyn sydd angen ei newid i wneud rheoleiddio gofal iechyd yn addas i'r diben. Ochr yn ochr â llawer o rai eraill yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, galwasom am ddiwygio rheoleiddio, gan adeiladu ar ein hegwyddorion rheoleiddio cyffyrddiad cywir a thynnu sylw at y ffaith bod deddfwriaeth dameidiog y rheolyddion yn rhwystro rheoleiddio effeithiol ar weithlu modern. Darparodd ymgynghoriad hir-ddisgwyliedig y llywodraeth ar ddiwygio rheoleiddio yn 2018 y cyfle cyntaf i edrych ar sut y gellid gwella rheoleiddio fel ei fod yn amddiffyn cleifion yn iawn ac yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i wneud y peth iawn. Mae’r gwaith hanfodol hwn wedi ein galluogi i gael deialog rhyngwladol am reoleiddio a’i rôl mewn diogelwch cleifion.
A dim ond megis dechrau yw hyn – mae’r gwaith y mae’r Awdurdod wedi’i wneud yn ystod cyfnod George fel Cadeirydd wedi llwyddo i agor y sgwrs, gan roi digon o gyfle ar gyfer newidiadau mawr mewn diwygio rheoleiddio yn y blynyddoedd i ddod.
Hoffem ddiolch i George am bopeth y mae wedi'i wneud i'r Awdurdod, a dymuno'r gorau iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol.