Ffit a Phriodol?
07 Mawrth 2013
Cefndir
Yn y papur hwn mae'r Awdurdod yn nodi rhai myfyrdodau ar lywodraethu er budd y cyhoedd, gan dynnu ar ei brofiad o'i adolygiadau blynyddol, ymchwilio i feysydd penodol o bryder, a gwaith rhyngwladol.
Dros y degawd diwethaf mae llywodraethiant y rheolyddion gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn y DU wedi cael ei drawsnewid. Nid hunan-reoleiddio yw dull y DU mwyach ond rheoleiddio ar y cyd; rheoleiddio a rennir gan broffesiynau a’r cyhoedd er budd y gymdeithas gyfan. Mae cynghorau neu fyrddau’r rheolyddion proffesiynol yn llawer llai erbyn hyn, ac mae ganddynt nifer gytbwys o aelodau proffesiynol a chyhoeddus penodedig, yn hytrach na’r hen gyrff cynrychioliadol mawr, etholedig. Mae llywyddion wedi dod yn gadeiryddion ac mae llawer ohonynt yn aelodau cyhoeddus yn hytrach nag aelodau proffesiynol. Mae ffocws rheoleiddio ar wasanaethu’r cyhoedd yn hytrach na’r proffesiynau yn amlwg yn y diwygiadau hyn, ac fe’i hadlewyrchir mewn datblygiadau tebyg mewn rheoleiddio proffesiynol mewn sectorau eraill, megis rheoleiddio gweithwyr cyfreithiol proffesiynol.
Serch hynny, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae achosion o lywodraethu aneffeithiol yn rhai o'r rheolyddion a oruchwyliwn wedi arwain at wrthdaro mewnol a cholli hyder proffesiynol a chyhoeddus yn allanol. Yn yr adolygiadau yr ydym wedi’u cynnal rydym wedi dod o hyd i enghreifftiau o ymddygiad personol a chorfforaethol amhriodol a allai fod wedi peri risgiau i fudd y cyhoedd ac sydd felly’n cyfiawnhau adfyfyrio ehangach ar sut beth yw llywodraethu da mewn rheolydd modern.
Crynodeb
Yn y papur hwn rydym yn tynnu ar ein profiad o adolygiadau blynyddol o berfformiad y rheolyddion; ymchwilio i feysydd pryder penodol megis ein hadroddiadau ar y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, a'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol; a datblygu polisi yn y sector i fyfyrio ar y materion hyn. Rydym hefyd yn tynnu ar ein profiad rhyngwladol, er enghraifft yr adolygiad a gynhaliwyd gennym y llynedd ar gais Cyngor Nyrsio Seland Newydd a edrychodd yn benodol ar lywodraethu. Rydym yn nodi rhai themâu a phryderon cyffredin yr ydym yn ymwybodol bod eraill, yn enwedig y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, wedi'u cydnabod hefyd. Gobeithiwn y bydd y rheolyddion, yr Adrannau Iechyd a'r rhai sy'n dal swyddi cyhoeddus eraill yn dymuno ystyried y myfyrdodau a gynigiwn yn y papur hwn.