Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Addysg a Hyfforddiant

17 Tachwedd 2015

Cefndir

Comisiynodd yr Awdurdod adolygiad o'n dull o asesu Safon 9 (addysg a hyfforddiant) y Safonau Achredu ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, rhoesom gyfres o argymhellion gerbron ein Bwrdd i’w hystyried. Cytunodd y Bwrdd y dylai safonau addysg a hyfforddiant y Cofrestrau Achrededig fod yn eglur i'r cyhoedd ac y dylid newid geiriad Safon 9 i wneud y gofyniad hwn yn gliriach. Gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad i gael barn y cyhoedd am y newidiadau arfaethedig i Safon 9.

Mae’r ddogfen hon yn trafod yr ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Yr Ymgynghori

 Parhaodd yr ymgynghoriad am ddau fis, o fis Ebrill i ddiwedd mis Mehefin 2015. Cawsom 25 o ymatebion, y cwblhaodd 21 ohonynt yr arolwg cyfan ac wyth ohonynt yn union yr un fath. Darparodd 23 o'r ymatebwyr sylwadau ychwanegol hefyd. Roedd yr ymatebwyr o nifer o gefndiroedd, cawsom bum ymateb gan sefydliadau addysgol, ac roedd tri ohonynt yn ymwneud ag aciwbigo, naw ymateb gan Gofrestrau Achrededig, un ymateb gan reoleiddiwr statudol, wyth ymateb gan ymarferwyr aciwbigo neu glinigau, un ymateb gan Adran y Llywodraeth ac un ymateb gan grŵp eiriolaeth.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau