Ymgynghoriad y GMC ar ddiwygio addasrwydd i ymarfer
15 Mai 2015
Cefndir
Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Meddygol Cyffredinol: Diwygio ein prosesau ymchwilio a dyfarnu addasrwydd i ymarfer ym mis Mai 2015.
Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Fel y gwelsom ar sawl achlysur yn ddiweddar, canfuom nad oedd y dogfennau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn darparu digon o wybodaeth. Mae rhai o’r cynigion yn arwyddocaol ac yn gymhleth, a byddent wedi elwa ar esboniadau manylach a chroesgyfeiriadau cliriach at y ddeddfwriaeth.