Adolygiad o Goleg Brenhinol Llawfeddygon Deintyddol Ontario
31 Mai 2013
Cefndir
Cawsom ein gwahodd gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Deintyddol Ontario i gynnal adolygiad o'i berfformiad fel rheolydd. Roedd y Coleg yn dymuno meincnodi ei berfformiad yn erbyn rheoleiddwyr eraill, i gadarnhau lle'r oedd yn perfformio'n dda ac i nodi unrhyw feysydd i'w gwella. Addaswyd y Safonau Rheoleiddio Da i adlewyrchu cyd-destun penodol a chyfrifoldebau statudol rheoleiddwyr yn Ontario, a chanolbwyntiodd yr adolygiad ar feysydd canllawiau a safonau, cofrestru, ac ymdrin â chwynion. Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng Chwefror a Mai 2013. Yn ystod yr adolygiad dadansoddwyd ystod o dystiolaeth ddogfennol, siarad ag aelodau o staff y Coleg ac aelodau'r Cyngor, a chyfweld â rhanddeiliaid allanol. Gwnaethom hefyd samplu ffeiliau achos ar hap.
Mae ein hadroddiad yn nodi ein hasesiad o berfformiad y Coleg yn erbyn pob un o'r safonau yn eu tro. Addaswyd y safonau fel eu bod yn berthnasol i gyd-destun a chyfrifoldebau statudol y Coleg. Daethom i'r casgliad bod y Coleg yn rheolydd effeithiol, sy'n canolbwyntio'n gryf ar ddiogelwch cleifion a budd y cyhoedd, a'i fod yn bodloni neu'n rhagori ar bob un o'r safonau. Rydym wedi nodi a disgrifio'r meysydd hynny lle teimlwn fod y Coleg yn dangos arfer da, ac rydym hefyd wedi nodi nifer o argymhellion ar gyfer gwaith pellach a gwelliant.
Roedd hwn yn gyfle i’w groesawu i astudio rheoleiddiwr yn Ontario, o ystyried y diddordeb rhyngwladol hirsefydlog ym model Ontario, a dyma oedd ein hymarfer cyntaf o’r fath yng Nghanada. Mae dysgu oddi wrth ein gilydd yn werthfawr i’r gymuned ryngwladol o reoleiddwyr ac rydym yn ddiolchgar i’r RCDSO am ei gyfraniad i hyn drwy gomisiynu’r adroddiad hwn. Gyda'r amcan hwn mewn golwg, yn ogystal â'n hasesiad o berfformiad y Coleg yn erbyn y safonau, rydym hefyd wedi cynnwys disgrifiad cyffredinol o'r trefniadau ar gyfer rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol yn Ontario.