Safonau ar gyfer aelodau byrddau'r GIG a chyrff llywodraethu Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr
21 Mai 2013
Cefndir
Cawsom ein comisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ym mis Gorffennaf 2011 i ddatblygu Safonau ar gyfer aelodau byrddau’r GIG a chyrff llywodraethu CCG yn Lloegr, yn cwmpasu ymddygiad personol, cymhwysedd technegol ac arferion busnes.
Dylai pob aelod o fyrddau’r GIG a chyrff llywodraethu CCG ddeall ac ymrwymo i arfer llywodraethu da ac i’r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y maent yn gweithredu ynddynt. Fel unigolion rhaid iddynt ddeall maint a chyfyngiadau eu cyfrifoldebau personol.
Ar ôl ymgynghori’n helaeth â chleifion a’r cyhoedd, aelodau bwrdd y GIG, a rhanddeiliaid allweddol eraill fel Cyflogwyr y GIG, y Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd, a Chronfa’r Brenin, datblygwyd Safonau sy’n rhoi gofal a thosturi wrth wraidd arweinyddiaeth yn y GIG mewn Lloegr.