Safonau ar gyfer Aelodau Bwrdd y GIG - Adolygu Polisi
11 Hydref 2011
Cawsom ein comisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ym mis Gorffennaf 2011 i ddatblygu Safonau ar gyfer aelodau bwrdd y GIG sy’n cwmpasu ymddygiad personol, cymhwysedd technegol ac arferion busnes. Yr adolygiad polisi hwn oedd cam cyntaf y broses ddatblygu.
Sefydlodd fod llawer o safonau a chodau yn berthnasol i aelodau bwrdd y GIG a bod rhywfaint o gysondeb rhyngddynt yn benodol o ran eu cynnwys moesegol.
Trosolwg
Mae'r adolygiad hwn yn dechrau drwy nodi'r cyfeiriadau polisi y deilliodd y prosiect hwn ohonynt, a rhai o'r dogfennau allweddol sydd wedi diffinio'r cyd-destun.
Yna mae’n edrych ar y cyd-destunau polisi presennol ac yn y dyfodol – sef y diwygiadau mawr sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y GIG yn Lloegr, ac yn nodi unrhyw ddogfennau polisi allweddol sy’n nodi’r heriau y gall uwch reolwyr y GIG eu hwynebu o dan y diwygiadau.
Mae’n mynd ymlaen i archwilio unrhyw safonau a chodau presennol sy’n berthnasol i’r prosiect hwn, sef unrhyw beth sy’n ymwneud â moeseg, codau ymddygiad, a/neu gywirdeb ariannol. Bydd themâu cyffredin yn cael eu nodi, a bydd unrhyw beth arall o ddiddordeb arbennig yn cael ei amlygu i'w ddefnyddio o bosibl wrth ddatblygu'r safonau