Ymgynghoriad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
08 Ebrill 2016
Cefndir
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig creu 'cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio'.