Dull newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer yr Awdurdod

05 Hydref 2020

Mae ein strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd wedi’i chyhoeddi heddiw. Mae ymgysylltu effeithiol yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i gyflawni ein hamcanion: amddiffyn y cyhoedd, hyrwyddo safonau proffesiynol da a chynnal hyder y cyhoedd mewn rheoleiddio.  

Mae ein strategaeth wedi’i llunio gan adborth gan ein rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai a gyfrannodd at ein harchwiliad canfyddiadau diweddar. Rydym yn falch bod llawer yn gwerthfawrogi ein rôl o ran diogelu’r cyhoedd, codi safonau’r rheolyddion a’r cofrestrau rydym yn eu goruchwylio a’n gwaith ymchwil a pholisi. Rydym wedi cymryd sylw o'r cynigion y dylem wneud mwy i annog mwy o gydweithio o fewn y sectorau iechyd a gofal, gwthio'n galetach ar gyfer diwygio rheoleiddio a chodi proffil ein gwaith gyda'r Cofrestrau Achrededig.

Mae ein strategaeth newydd yn amlinellu ein bwriad i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y pedair gwlad ar dri maes blaenoriaeth:

  • Diwygio rheoleiddio – sicrhau bod yr Awdurdod yn cadw llais dylanwadol mewn trafodaethau ar ddiwygio rheoleiddio a’i fod yn gallu llunio cynigion i gadw diogelu’r cyhoedd wrth wraidd unrhyw newidiadau a wneir
  • Cofrestrau Achrededig – parhau i godi ymwybyddiaeth broffesiynol a chyhoeddus o’r rhaglen a sicrhau ei chynaladwyedd parhaus tra’n cryfhau gallu’r rhaglen i ddiogelu’r cyhoedd trwy geisio newidiadau i’r ddeddfwriaeth ddiogelu berthnasol. Dros y chwech i 12 mis nesaf mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch ymgysylltu yn debygol o ganolbwyntio ar yr adolygiad strategol o’r rhaglen Cofrestrau Achrededig.
  • Canolbwyntio sylw rheoleiddiol yn briodol ar amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys o fewn safonau, canllawiau, addysg a hyfforddiant, ac addasrwydd i ymarfer.

Cysylltwch â ni i drafod meysydd allweddol o ddiddordeb cyffredin neu i roi adborth i ni ar ein gwaith.

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion