Adolygiad cynnydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
11 Ebrill 2016
Rhagymadrodd
Ym mis Ebrill 2010, gwahoddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd - CHRE) i gynnal adolygiad o'r cynnydd yr oedd wedi'i wneud yn ei waith addasrwydd i ymarfer. Gofynnodd yr NMC i ni ystyried ei gynnydd ers cyhoeddi ein Hadroddiad Arbennig i’r Gweinidog Gwladol dros Wasanaethau Iechyd ar y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ym mis Mehefin 2008 (‘ein Hadroddiad Arbennig’) a’n Hadroddiad Archwilio Addasrwydd i Ymarfer a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2010 (' ein Hadroddiad Archwilio'). Roeddem wedi adrodd ar ganlyniadau’r archwiliad hwnnw i’r NMC ym mis Medi 2009.
Yn y ddau adroddiad hyn, mynegwyd pryderon gennym am safonau gwaith achos. Roedd ein pryderon yn perthyn yn fras i’r meysydd canlynol:
- Trin achosion
- Gwneud penderfyniadau
- Gofal cwsmer
- Amseroldeb
- Cadw cofnodion
- Rheolaeth gyffredinol o'r swyddogaeth addasrwydd i ymarfer.
Mewn ymateb i'r ddau adroddiad, cynhyrchodd yr NMC gynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r meysydd diffyg a nodwyd. Rydym eisoes wedi adolygu cynnydd yr NMC wrth weithredu'r cynlluniau hyn fel rhan o adolygiad perfformiad 2008/09 a 2009/10. Amlygodd y rhain ein bod yn dal i fod â phryderon difrifol am berfformiad yr NMC yn enwedig mewn perthynas â gofal cwsmeriaid, amseroldeb a chofnodi penderfyniadau. Ar gais yr NMC, mae'r adolygiad cynnydd hwn yn edrych yn ehangach ac yn fanylach ar y materion a nodwyd yn ein Hadroddiad Arbennig ac yn ein Hadroddiad Archwilio ac yn asesu ymdrechion yr NMC i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri pryder.