Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal: 'Canllawiau ar ymddygiad a moeseg i fyfyrwyr' diwygiedig

12 Hydref 2016

Ymgynghoriad yr HCPC

Rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar eu 'Canllawiau ar ymddygiad a moeseg i fyfyrwyr' diwygiedig. Rydym yn parhau i gefnogi safbwynt yr HCPC na ddylai myfyrwyr gael eu rheoleiddio'n statudol, ar y sail y dylai unrhyw risgiau a gyflwynir ganddynt gael eu trin gan fecanweithiau presennol o fewn addysg uwch. Fodd bynnag, mae cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr yn ffordd syml o helpu i'w paratoi ar gyfer gyrfa fel gweithiwr proffesiynol rheoledig.

Sylwadau cyffredinol

  • Rydym yn annog y rheolyddion i gynhyrchu canllawiau clir yn seiliedig ar egwyddorion allweddol ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau sydd angen eu cyflawni.
  • Dylai cael canllawiau ar wahân i fyfyrwyr, yn seiliedig ar y safonau y mae aelodau llawn o’u proffesiwn yn eu dilyn, helpu myfyrwyr i reoli’r amgylchiadau a’r sefyllfaoedd amrywiol niferus y maent yn eu hwynebu ond hefyd i gydnabod eu cyfyngiadau a cheisio cyngor a chymorth gan eu darparwr addysg neu leoliad lle bo angen. . 

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau