Datblygu cofrestr feddygol y DU: ymgynghoriad cyhoeddus
12 Hydref 2016
Am beth mae'r ymgynghoriad?
Rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn am gynnig y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) i newid ei gofrestr.
Sylwadau cyffredinol
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn credu y dylai cofrestrau a gedwir gan reoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol gyflawni’r prif ddiben o ddiogelu’r cyhoedd – maent yn gwneud hyn drwy ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd a chyflogwyr ynghylch a yw unigolyn yn gymwys ac yn addas i ymarfer. Wrth asesu'r newidiadau i unrhyw gofrestr, mae ein craffu yn deillio o'r safbwynt hwn.
Er y gall fod angen mwy o wybodaeth am gofrestrau – rydym yn sôn yn ein hadroddiad Mwyhau Cofrestrau am rai manylion yr hoffai’r cyhoedd eu gweld ar gofrestrau1 – dylai fod sail dystiolaeth gref ar gyfer amcangyfrif effeithiau newidiadau i’r gofrestr. Er enghraifft, yn ymchwil y GMC, Adolygu'r LRMP: Opsiynau ar gyfer Datblygu, roedd rhai rhanddeiliaid o'r farn bod cynnwys lluniau cofrestreion ar y gofrestr yn 'help gydag adnabod', ond roedd pryderon hefyd 'ynghylch diogelwch personol'.
Efallai y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe bai’r ddogfen ymgynghori wedi amlygu’n gliriach fanteision posibl pob cynnig penodol, a’r dystiolaeth sy’n dangos y gellir cyflawni’r manteision hynny. Mae adroddiad Trajectory yn gwneud defnydd o enghreifftiau rhyngwladol sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymharu, ond nid yw'n rhestru llawer o fanylion am fanteision ychwanegu gwybodaeth at y gofrestr.
Rydym yn awgrymu y gellid bod wedi cyflwyno mwy o dystiolaeth i gyfrif am holl risgiau a manteision datblygu’r gofrestr yn y ffyrdd a gynigir. Byddai hyn wedi galluogi’r GMC i ddangos cymaint â phosibl effeithiau – ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol – newidiadau i’w gofrestr