Ein rôl gyda'r Senedd
Cawsom ein sefydlu gan y Senedd i roi sicrwydd iddo fod y rheolyddion a oruchwyliwn yn cyflawni eu swyddogaethau cyfreithiol yn dda ac yn diogelu’r cyhoedd. Penderfynodd y Senedd roi’r rôl hon inni yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus o’r enw Ymchwiliad Bryste. Un o argymhellion yr ymchwiliad hwnnw oedd y dylid sefydlu un corff i gydgysylltu’r gwaith o reoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol. Cryfhaodd y Senedd ein rôl yn dilyn Ymchwiliad Shipman i sicrhau bod rheoleiddio yn gweithio er budd y cyhoedd.
Bob blwyddyn rydym yn darparu adroddiad trosolwg i ddweud wrth y Senedd pa mor dda y mae rheoleiddio yn gyffredinol yn gweithio. Gallwn wneud hyn oherwydd bod gennym drosolwg unigryw o'r holl reoleiddwyr a'r proffesiynau niferus y maent yn eu rheoleiddio. Rydym hefyd yn darparu copïau i'r Senedd o'n hadroddiadau unigol ar berfformiad pob rheolydd.
Yn ogystal, gall yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru ofyn inni am gyngor ynghylch rheoleiddio a’r gweithlu. Rydym yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn a'n cyngor.
Darllenwch ein hadroddiadau Corfforaethol.