Cymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain

Ewch i'r wefan: http://www.bapt.info

Mae'r BAPT yn gweithio i leddfu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n dioddef anawsterau emosiynol ac ymddygiadol trwy hyrwyddo celf a gwyddoniaeth Therapi Chwarae a hyrwyddo safonau uchel wrth ymarfer Therapi Chwarae.

Pan wnaethom adnewyddu achrediad BAPT , gwnaethom gyhoeddi saith Amod gyda therfynau amser ar gyfer gweithredu. Mae'r BAPT wedi ein hysbysu o'r camau sydd ganddynt ac y maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhain. Byddwn yn diweddaru statws yr Amodau maes o law. 

 

Amodau - Safon 2

Rhaid i BAPT ddatblygu gweithdrefnau sy'n sicrhau bod cofrestreion yn datgelu penderfyniadau ymddygiad proffesiynol perthnasol, a bod ganddo fecanweithiau i weithredu ar y rhain. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024

Amodau - Safon 5

Mae'n rhaid i'r BAPT ddatblygu trothwyon a meini prawf clir y manylir arnynt pan fydd cwynion yn addas i'w datrys yn anffurfiol neu pan fydd yn rhaid eu huwchgyfeirio i weithdrefnau ffurfiol. Mae hyn i'w weithredu o fewn chwe mis. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024

Rhaid i'r BAPT ddatblygu prosesau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a monitro'n barhaus y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ar gyfer prosesau disgyblu, er mwyn sicrhau y gallant gyflawni eu rolau'n effeithiol. Mae hyn i'w weithredu o fewn chwe mis. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024

Rhaid i BAPT sicrhau bod gorchmynion interim yn cael eu harddangos ar gofnodion cofrestr a phroffil, ac ar dudalennau canlyniadau. Mae hyn i'w gwblhau o fewn tri mis. Dyddiad cau - 26 Awst 2024

Rhaid i'r BAPT wneud yn glir bod achwynwyr yn gweithredu fel tystion ac nad yw'n ofynnol iddynt weithredu fel erlynydd yn ystod achosion sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer gwrandawiadau ffurfiol. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024

Rhaid i BAPT wella tryloywder trwy gyhoeddi cofnodion bwrdd a gwybodaeth lywodraethu gysylltiedig sydd ar gael i'r cyhoedd. Dylid gweithredu hyn o fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024

Amodau - Safon 6

Dylai BAPT ddatblygu cofrestr risg sefydliadol a chynnwys adolygiad rheolaidd o hyn o fewn ei brosesau. Mae hyn i'w weithredu o fewn chwe mis. Dyddiad cau - 26 Tachwedd 2024