Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol
Ewch i'r wefan: http://www.cnhc.org.uk/
Mae'r Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC) yn rheoleiddiwr gwirfoddol o ymarferwyr gofal iechyd cyflenwol.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad o’n hasesiad Safon Un ar gyfer CNHC yn ogystal ag asesiad effaith (ar 21 Chwefror 2023). Canfuom fod prawf budd y cyhoedd wedi'i fodloni ag Amod y dylai'r CNHC, o fewn chwe mis, atgyfnerthu ei wiriadau ynghylch a yw cofrestryddion yn hysbysebu'n gyfrifol. Dylai hefyd gyflwyno proses gliriach ar gyfer ymdrin ag achosion o dorri ei ofynion hysbysebu. Ym mis Hydref 2023, canfuom fod yr Amod hwn wedi'i fodloni. Gallwch ddarllen ein hadroddiad ar sut y bodlonwyd yr amod hwn yma .
Ym mis Rhagfyr 2023 cwblhawyd ein hasesiad adnewyddu llawn o gofrestr y CNHC. Gallwch ddarllen ein penderfyniad yn ogystal â'n Hasesiad Effaith . Pan wnaethom adnewyddu achrediad y CNHC, gwnaethom gyhoeddi'r Amod canlynol gyda therfynau amser ar gyfer gweithredu. Byddwn yn diweddaru statws yr Amod maes o law.
Amodau - Safon Dau
1. Dylai'r CNHC adolygu'r cyflwyniad ar y wybodaeth ar y Gofrestr fel bod y llwybr y mae'r cofrestrai wedi cymhwyso drwyddo yn glir.
Dyddiad cau - Asesiad blynyddol nesaf.